Llyfrgell Hugh Owen
Llyfrgell Hugh Owen yw prif lyfrgell y Brifysgol a chanolfan weinyddol gwasanaethau'r llyfrgell. Wedi ei lleoli ar gampws Penglais, mae'n darparu man ar gyfer astudio, pa un ai ydych am astudio'n dawel ar eich pen eich hun neu gydag eraill. Darperir amrywiaeth o adnoddau i roi help llaw gyda'ch astudiaethau ac ar gyfer ymlacio mewn man tawel.
Gweler taith rithwir o gwmpas Llyfrgell Hugh Owen.
Oriau Agor
Mae Llyfrgell Hugh Owen yn ymestyn ei oriau agor i 12pm dydd Llun-dydd Iau o ddydd Llun 17fedHydref 2011 ymlaen. Bydd yr oriau agor hyn yn parhau yn ystod y tymor i ddarparu gwasanaeth hirach i fyfyrwyr a staff, yn enwedig y rheini sydd angen mwy o gefnogaeth o ran cael lle i astudio.
| Yn ystod y tymor | Yn ystod y gwyliau |
|---|---|
| Dydd Llun - Dydd Iau 8.30 - canol nos* | Dydd Llun - Dydd Gwener 8.30 - 17.30* |
| Dydd Gwener 8.30 - 21.30* | |
| Dydd Sadwrn a Dydd Sul 10.00 - 18.00* |
Noder os gwelwch yn dda, yn ystod y tymor nid oes yna wasanaethau yn cael eu staffio ar ôl 7.30pm.
*Nodwch fod Llyfrgell Hugh Owen yn dechrau cau hanner awr cyn yr amser cau a hysbysebwyd, gan gychwyn ar Lefel F.
Casgliadau
Mae casgliadau Llyfrgell Hugh Owen yn cwmpasu pynciau'r Celfyddydau, y Gwyddorau Cymdeithasol, Y Gyfraith a Gwyddorau'r Ddaear ac yn cynnwys:
- Casgliad Celtaidd
- Ffuglen
- Dogfennau Diplomyddol
- Casgliad Astudio Effeithiol
- Canolfan Dogfennau Ewropeaidd
- Sgiliau Bywyd yn y Brifysgol
- Cyhoeddiadau Swyddogol
- Cyfeirlyfrau
- Llyfrau Prin
- Cyhoeddiadau Ystadegol
- Benthyciadau Byr
- Traethodau Ymchwil
Gellir cael gwybodaeth am fenthyca o gasgliadau'r llyfrgell ar y dudalen hon
Cynllun llawr
- Llyfrgell Hugh Owen - Cynllun Llawr Lefel D
- Llyfrgell Hugh Owen - Cynllun Llawr Lefel E
- Llyfrgell Hugh Owen - Cynllun Llawr Lefel F
- Cynllun Llawr Llyfrgell y Gyfraith
Cyfleusterau
- Byseddell Alphasmart
- Peiriant Newid Arian
- Cyfrifuaduron (PA yn uni)
- Cyfleusterau gwylio DVD/Fideo
- Mannau Astudio Grwp
- Cymorth a chefnogaeth
- Ystafelloedd Astudio Unigol a Grwp
- Loceri
- Eiddo Coll
- Chwyddwydrau
- Papurau Newydd - papurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol
- OPACs
- Dolen sain gludadwy
- Llwythwr credyd argraffu
- Argraffu a Llungopïo
- Gwerthiant nwyddau traul
- Sganwyr
- Peiriant hunan fenthyca (ar lefel D)
- Peiriant hunan fenthyca (ar lefel D)
- Rhwymo Crib Gylchog Hunanwasanaeth
- Mannau astudio tawel
- Peiriant gwerthu
- Wi-Fi
Hygyrchedd
- Mae cloch ar y tu allan ar gael er mwyn mynd mewn i Lefel E y llyfrgell gyda chadair olwyn neu ar gyfer defnyddwyr sy’n cael trafferth symud o gwmpas neu sydd â nam ar eu synhwyrau.
- O ofyn amdano, gellir defnyddio’r lifft er mwyn mynd i’r lloriau eraill ar gyfer defnyddwyr sydd â nam corfforol, ac fe’i lleolir ger y Ddesg Ymholiadau. Gofynnwch am gymorth wrth y Ddesg Fenthyca.
- Mae toiledau i’r anabl ar Lawr E.
- Mae dolenni sain ar gael yn y desgiau gwasanaeth.
- Mae Bysellfyrddau Alphasmart a chwyddwydrau ar gael i’w benthyca o’r ddesg ymholiadau benthyca
- Mae ardal Cerdyn Gwyrdd ar lawr E, ac mae loceri ar gael
- Mae Mannau Astudio Cerdyn Gwyrdd ar gael yn Llyfrgell y Gyfraith
- Gallwn drefnu i nôl a dosbarthu deunyddiau darllen neu ddeunyddiau eraill yn y Llyfrgell, yn barod i’w casglu neu ar gyfer astudiaeth bersonol.
- Mae'r Larymau Tân o fath Klaxon a chloch ill dau, ac mae'n hollbwysig nad ydych yn defnyddio'r lifft pan fo'r larwm tân yn canu. Os oes angen Cynllun Personol Gadael Adeilad ar Frys arnoch cysylltwch â ni.
Cysylltwch â ni os hoffech gael taith dywysedig o amgylch yr adnoddau, trafod Cynllun Personol Gadael Adeilad ar Frys neu os oes gennych unrhyw ofynion penodol.
Manylion Cyswllt
Gwasanaethau GwybodaethPrifysgol Aberystwyth
Llyfrgell Hugh Owen
Penglais
Aberystwyth
SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 Ffacs: 01970 62 2404 Ebost: gg@aber.ac.uk