Benthyciadau rhwng Llyfrgelloedd
Diben y gwasanaeth yw darparu eitemau neu lungopïau o ddeunydd nad oes modd cael gafael arnynt mewn llyfrgell yn Aberystwyth, ac sydd heb fod ar gael o ffynhonnell electronig.
Fel arfer mae llyfrau a chyfnodolion sydd ar gadw mewn llyfrgelloedd ym Mhrydain y cael eu darparu yn gyflym, os ydych yn rhoi cyfeiriad cyflawn a chywir ar gyfer yr eitem dan sylw. Gellir benthyg eitemau o lyfrgelloedd tramor hefyd, ond gallai'r eitemau hynny gymryd cryn amser i gyrraedd.
Prisiau benthyciadau rhwn llyfrgelloedd
Mae costau ynghlwm wrth ddefnyddio'r gwasanaeth, i'r llyfrgell ac i chithau, felly gofynnwn i chi wneud cais dim ond am yr eitemau hynny y mae eu gwir angen arnoch chi.
Edrychwch yng nghatlog llyfrgell Primo a chatalog y Llyfrgell Genedlaethol i sicrhau nad yw'r eitem dan sylw ar gael yn lleol, cyn i chi gyflwyno cais am Fenthyciad rhwngLlyfrgelloedd. Cofiwch hefyd fod gwasanaeth ar gael sy'n golygu y gallwch gael gweld testunau llawn rhai cyfnodolion o unrhyw gyfrifiadur ar y campws. Gweler y dudalen ar Adnoddau Gwybodaeth Electronig.
| Math o Eitem | Pris ar Hyn o Bryd |
|---|---|
| Llyfr | £9.40 |
| Llungopi (i'w gadw) | £7.50 |
| Dosbarthu Electronig Diogel | £6.00 |
| Traethawd Hir | £10.00 |
| Patent | Yn unol â ffioedd y Llyfrgell Brydeinig |
| Ceisiadau Rhyngwladol |
Llyfrau £9.40 |
| Ffi adnewyddu eitem | £5.10 |
| Dirwy am eitemau hwyr | 20c y dydd |
* prisiau heb gynnwys ffioedd hawlfraint
Gwneud cais
Cewch wneud cais am fenthyciad rhwng llyfrgelloedd ar y ffurflenni cais sydd ar gael ym mhob llyfrgell.
Cewch hefyd wneud cais yn uniongyrchol ar gatalog y llyfrgell - Primo drwy glicio ar y botwm 'Cais Pwrcasu' sydd ar frig y tudalen ar y dde, gan fewngofnodi pan ofynnir i chi.
Sicrhewch eich bod yn rhoi manylion yr awdur, y teitl a'r flwyddyn yn gywir. Gallai gwybodaeth anghyflawn arafu'r broses. Mae'n rhaid i bob cais am draethodau hir ym Mhrydain gael ei wneud ar ffurflen benthyciad rhwng llyfrgelloedd, a bydd angen i chi lofnodi datganiad hawlfraint cyn i'r eitem gael ei hanfon. Ni fydd ceisiadau am fenthyciadau rhwng llyfrgeloedd yn ymddangos ar eich cofnod defnyddiwr ar Primo. Os hoffech nôl unrhyw eitem o lyfrgelloedd Thomas Parry neu'r Gwyddorau Ffisegol, bydd rhaid naill ai gwneud cais drwy lenwi ffurflen ysgrifenedig a'i chyflwyno i'r llyfrgell berthnasol, neu drwy wneud cais ar-lein.
Dosbarthu Electronig Diogel
Gallwch gael copïau o erthyglau mewn cyfnodolion a archebir drwy fenthyciad rhwng llyfrgelloedd yn uniongyrchol i'ch cyfrifiadur, drwy ddefnyddio gwasanaeth Dosbarthu Electronig Diogel y Llyfrgell Brydeinig. Drwy Dosbarthu Electronig Diogel, mae'r dogfennau'n cyrraedd yn gyflym, yn syth i'ch cyfrifiadur, ac maent ar gael i chi, lle bynnag yr ydych chi, drwy ddolen o'ch ebost.
Gwnewch eich cais am fenthyciad rhwng llyfrgelloedd yn y modd arferol. Byddwn ni'n ebostio cyswllt â'r ddogfen y gwnaethoch gais amdani. I weld ac argraffu'r ddogfen, bydd angen gosod rhaglen ategol sydd ar gael am ddim o'r we o'r enw 'FileOpen' (gweler isod).
Agorwch yr ebost mewn html a chlicio ar y ddolen i gael eich eitem. Sicrhewch fod pob un tudalen yno, ac argraffwch un copi yn syth. Dim ond un copi papur y cewch ei wneud o'r copi electronig. Mae'r ddolen yn 'fyw' am bedwar diwrnod ar ddeg, ac mae'n rhaid i chi lawrlwytho ac argraffu'ch ddogfen o fewn y cyfnod hwnnw. Dim ond ar y cyfrifiadur lle yr agorwyd y ddogfen am y tro cyntaf y byddwch yn cael ei gweld. Mae dogfennau Dosbarth Electronig Diogel ar gael mewn du a gwyn yn unig. Os na allwch gael gafael ar eich dogfen mewn pryd, am ba reswm bynnag, cysylltwch â'r gwasanaeth Benthyciadau rhwng Llyfrgelloedd am gyngor.
Rhaglen ategol yw FileOpen sy'n gweithio ag Adobe Reader i chi allu agor eich dogfen yn ystod y cyfnod lawrlwytho, sef 14 o ddiwrnodau, a'i hargraffu unwaith. Cewch lawrlwytho FileOpen yn rhad ac am ddim. Mae cyfarwyddiadau ar lawrlwytho FileOpen i'ch cyfrifiadur ar gael ar wefan y Llyfrgell Brydeinig. Ar y tudalen hwnnw mae dogfen brawf ar gael i chi sicrhau bod eich cyfrifiadur wedi'i osod yn iawn. Sylwer, ar hyn o bryd, nad yw'r rhaglen ategol FileOpen yn gweithio i sustemau Linux â fersiwn 9 o Acrobat Reader.
Os cewch broblemau neu os bydd angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth Benthyciadau rhwng Llyfrgelloedd.
Gweld beth sy'n digwydd â'ch cais
Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, bydd staff y llyfrgell yn ei wirio a'i gymeradwyo, a'i anfon ymlaen i'r sefydliad sy'n rhoi benthyg, sef Canolfan Cyflenwi Dogfennau'r Llyfrgell Brydeinig gan amlaf. Rhoddir gwybod i chi, drwy ebost fel rheol, os bydd oedi mawr, neu os nad oes modd cyflawni'r cais.
Dod i Nôl Benthyciadau rhwng Llyfrgelloedd
Cewch wybod pan fydd yr eitem yn barod i chi ddod i'w nôl, naill ai drwy ebost neu ar bapur. Gofynnwn i chi ddod i'w nôl Ddesg Ymholiadau'r Llyfrgell berthnasol. Bydd angen talu'r ffi am y gwasanaeth pan ddewch i nôl yr eitem.
Os ydych chi'n cael eitem ar fenthyg, fe'i rhoddir i chi yn y modd arferol, ac felly bydd angen dod â'ch Cerdyn Aber gyda chi. Os yw'r cais am lungopi i chi eig adw, mae'n rhaid inni, yn ôl y gyfraith, ofyn i chi lofnodi datganiad hawlfraint cyn y cewch ei c. Gan nad oes modd i chi wneud hynny pan wnewch eich cais ar Primo, bydd angen i chi lofnodi pan ddewch i nôl yr eitem. Sylwer bod rhaid cael llofnod gan yr unigolyn a wnaeth y cais gwreiddiol. Dylid dychwelyd yr eitemau erbyn y dyddiad a ddangosir ar y ddalen y tu mewn. Bydd angen talu dirwy am ddychwelyd eitemau yn hwyr. Sylwer ei bod hi'n bosib na cheir mynd â rhai eitemau allan o'r llyfrgell. Y llyfrgell sy'n rhoi benthyg yr eitem sy'n gosod yr amodau hyn, ac nid yw'r Gwasanaethau Cwsmeriaidyn cael gwybod yr amodau hyd nes y bydd yr eitem yn cyrraedd.
Adnewyddu eitemau sydd ar fenthyg rhwng llyfrgelloedd
Mae'r Llyfrgell Brydeinig wedi cyflwyno trefn adnewyddu awtomatig newydd. Tua diwedd cyfnod y benthyciad, bydd hysbysiad adnewyddu yn cael ei anfon. Dylech gysylltu â ni ar y dyddiad adnewyddu neu cyn y dyddiad hwnnw os hoffech adnewyddu'r eitem. Byddwn ni wedyn yn gofyn am ganiatâd i'w hadnewyddu a rhoi gwybod i chi am ganlyniad y cais. Os nad ydych am gadw'r eitem ymhellach, dylewch ei dychwelyd yn syth. Sylwer na allwn gadw eitemau a fenthyciwyd o lyfrgell arall am gyfnod di-ben-draw.