Loceri

Mae loceri ar gael yn Llyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry ar gyfer unrhyw un sydd am gadw llyfrau personol a phapurau mewn man diogel.

Mae allweddi ar gael  o’r Desgiau Ymholiadau

  • Mae allweddi loceri ar gael am y flwyddyn academaidd (Medi - Mehefin) am dâl o £10 (ffi o £5  ynghyd â £5 o flaendâl dychweladwy)
  • Bydd rhaid ichi dalu’n llawn am yr allwedd os collir hi.

Loceri Ardal Cerdyn Gwyrdd

  • Mae nifer fechan o loceri ar gael i’w llogi ar sail dyddiol ar Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen ar gyfer defnyddwyr Cerdyn Gwyrdd
  • Gellir cael allweddi o’r Ddesg Ymholiadau a dylid eu dychwelyd yno ar ddiwedd y diwrnod.