Rhifau PIN y Llyfrgell

Cyflwynwyd Rhifau PIN er mwyn gwella diogelwch, i warchod data personol ar Voyager a hefyd i atal camddefnyddio cardiau - sydd naill ai wedi eu colli neu wedi eu dwyn - ar y system hunan-fenthyca.Sut i Ddefnyddio eich rhif PIN

Sut i gael eich Rhif PIN

Anfonir rhifau PIN y llyfrgell trwy gyfrwng e-bost at israddedigion ac uwchraddedigion ac aelodau Staff newydd ar ôl iddynt roi eu cyfrif cyfrifiadurol ar waith.

Bydd categorïau eraill o ddefnyddwyr sydd ag hawl i rif PIN yn derbyn eu rhif PIN pan fyddant yn casglu eu Cerdyn Aber o’r Ddesg Ymholiadau yn Llyfrgell Hugh Owen.

Defnyddio eich rhif PIN

Wrth ddefnyddio'r peiriannau hunan-fenthyca i fenthyca llyfrau, gofynnir ichi deipio eich rhif PIN unwaith y gwiriwyd eich cerdyn.

Os collwch eich rhif PIN

Os ydych wedi colli eich rhif PIN gellir anfon neges atgoffa i'ch cyfeiriad e-bost Prifysgol Aberystwyth yma.

Gallwch hefyd wirio eich rhif PIN ar beiriannau arbennig yn Llyfrgell Hugh Owen.

Problemau gyda’r Rhif PIN

Os nad yw eich rhif PIN yn gweithio, os gwelwch yn dda cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth