Digideiddio - sganio dogfennau, sleidiau a negatifau

Cyfryngau a Gwerthiannau yn cynnig gwasanaeth sganio dogfennau, sleidiau a negatifau.

Digideiddio Dogfennau

Gwella effeithiolrwydd a lleihau costau rheoli a diogelu eich dogfennau. Nid oes terfyn ar y math o gofnodion y gellir eu digideiddio. Y maint mwyaf y gallwn ei sganio yw A3.

Gyda'n Konica bizhub C550, gallwn sganio eich dogfennau papur a'u cadw fel ffeiliau PDF. Gall y ffeiliau gael eu hargraffu, eu he-bostio i chi, eu copïo ar gofbin USB neu'u llosgi ar CD neu DVD.

Hawlfraint

Mae'r Brifysgol wedi'i chyfyngu gan reoliadau llym o ran copïo deunyddiau sydd wedi'u cyfyngu gan hawlfrait. Cyfrifoldeb yr holl gwsmeriaid yw sicrhau fod yr holl waith copïo  y maent yn ei wneud, neu'n gofyn i'r Cyfryngau a Gwerthiannau ei wneud - yn dod o dan y cyfyngiadau a osodwyd yn y Cytundeb Trwyddedu Hawlfraint neu ewch i wefan yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint.(Saesneg)

Sganio Sleidiau a Negatifau

Diogelwch eich sleidiau 35mm a'ch negatifau trwy eu sganio a'u trosglwyddo i CD neu DVD neu gyfres o ffeiliau .jpg. Mae llawer o hen sleidiau tryloyw yn cael eu difrodi gan lwydni, felly mae'n werth eu diogelu cyn iddynt gyrraedd cyflwr o'r fath.

Gellir trosglwyddo sleidiau a negatifau proffesiynol neu dechnegol i CD neu DVD i'w defnyddio ar gyfer darlithoedd, cyflwyniadau neu sgyrsiau ar gyfer eich clwb neu gymdeithas.

Nid yw'r glud yn gweithio ar fowntiau rhai sleidiau hŷn, dim ond y sleidiau mewn mownt cadarn y gallwn eu sganio. Pan fo angen byddwn yn ail-fowntio'r sleidiaumewn plastig, ond bydd cost ychwanegol am hyn.

Os hoffech i'ch lluniau ymddangos ar CD neu DVD mewn trefn benodol bydd yn rhaid i chi roi gwybod i ni, a gwneud yn siŵr bod y sleidiau wedi'u marcio'n glir yn y drefn gywir.

Byddwch yn cael yr holl luniau fel ffeiliau .jpg.

Cofiwch y gellir defnyddio taflunydd digidol gyda'ch cyfrifiadur neu'ch gliniadur, i roi cyflwyniad sgrin lawn (mae'r holl offer ar gael hefyd i chi eu benthyca o Stoc Fenthyca'r Cyfryngau a Gwerthiannau).

Weithiau mae hi'n amhosibl i ni ddweud pa ochr yw'r 'ochr edrych' ar hen sleidiau. Marciwch bob sleid ar yr ochr 'edrych o'r ochr hon'. Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch cyfeiriad cywir y llun rydym yn argymell eich bod yn rhoi 'saeth i fyny' i ddangos y top.

Prisiau

Sylfaenol  £10.00 am hyd at 25 o sleidiau neu negatifau (35mm only)
+20p am bob sleid ychwanegol dros y 25 sylfaenol
ICE 4 +30p y sleid  

ICE 4 : cael gwared ar grafiadau a llwch yn ddigidol (Sleidiau yn unig)

Mae Digital ICE 4 yn cael gwared ar unrhyw ddiffygion ar yr arwyneb yn awtomatig, megis llwch a chrafiadau o lun sydd wedi'i sganio. Mae ein gwasanaeth safonol yn sganio sleidiau yn y cyflwr y dônt i law, nid ydym yn glanhau o gwbl.

Gall sganio gyda Digital ICE 4 gymryd llawer mwy o amser ac adlewyrchir hyn ym mhris y gwasanaeth hwn.

Oriau agor

Dydd Llun - Dydd Iau 08:30 -17:00
Dydd Gwener 08:30 - 16:30