Fideogynadledda
Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o Rwydwaith Fideo Cymru ac mae ganddi bedwar o ystafelloedd fideo-gynadledda:
- Llyfrgell Hugh Owen - Campws Penglais
- C22 Hugh Owen - Campws Penglais
- Ystafell 125 yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth - Campws Llanbadarn
- Adeilad Stapledon, Campws Gogerddan
Archebu
Mae'r lleoliadau uchod yn rhan o'r rhestr o ddefnyddwyr cofrestredig ar Wasanaeth Fideogynadledda JANET ac unwaith y maent wedi'u cynnwys yn y gwasanaeth archebu, maent yn cysylltu'r awtomatig â'r lleoliadau eraill sydd wedi'u cynnwys yn yr archeb benodol honno.
Y lleoliadau cofrestredig fel rheol yw rhai mewn sefydliadau Addysg/Cyngor yn y Deyrnas Unedig. Gellir cynnwys lleoliadau allanol trwy roi'r cyfeiriad IP neu'r rhif ISDN ar gyfer y lleoliad penodol hwnnw i ni, boed hynny yn y Deyrnas Unedig neu'n rhyngwladol. Cofiwch gael y wybodaeth hon CYN archebu pan fo'n bosibl, neu rhowch fanylion cyswllt yr unigolyn a all roi'r wybodaeth hon i ni. Yn gyffredinol, wythnos o flaen llaw i ganiatáu ar gyfer y gwahaniaethau amser sy'n arafu cyfathrebu ac ati.
GALL sefydliadau eraill archebu ein hystafelloedd drwy broses archebu Fideogynadledda JANET. NID OES ANGEN gnwued trefniadau archebu ychwanegol os yw'r ystafell yr hoffech wedi cael eii harchebu gan sefydliad arall.
- Mae archebu ar sail y cyntaf i'r felin
- Mae'n rhaid archebu'r ystafell am isafswm o 1 awr fesul ystafell.
Gallwch wirio, archebu a chanslo archebion ar-lein:
- Gwirio a oes ystafell ar gael
- Archebu
- Canslo Archeb am Fideogynadledda
Defnyddio'r adnoddau
- Darperir cyfarwyddiadau i ddefnyddwyr yn y stiwdio yn ogystal â rhifau ffôn cyswllt.
- Os oes arnoch angen cymorth i osod eich cynhadledd gofynnwch pan fyddwch yn archebu.
- Trefnydd y gynhadledd fydd yn gyfrifol am yr archeb a chymerir yn ganiataol mai'r unigolyn hwnnw fydd yn gyfrifol am ddiogelwch yr adnodd.
Costau
- Defnydd yn y Brifysgol - mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ond mae'n rhaid i ni godi tâl am unrhyw gostau gwirioneddol, e.e. costau goramser am gyfarfodydd hwyr.
- Defnydd y tu allan i'r Brifysgol- mae'r adnoddau ar gael ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn ymwneud â'r Brifysgol a dyma'r costau:
- Yr Ystafell: codir £37.50 + TAW fesul ystafell fesul awr am sesiynau i gynnwys cymorth technegol i osod galwadau.
- Y Galwadau: Galwadau ISDN: bydd y cwsmer yn talu costau llawn galwadau ISDN.
Noder - Bydd y defnyddwyr yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a achosir o ganlyniad i esgeuluso'r adnodd. Dylai defnyddwyr felly sicrhau bod ganddynt yswiriant priodol.