Cyfleusterau gwylio DVD/Fideo
Hugh Owen
| Lleoliad | DVD | Fideo | Defnydd |
|---|---|---|---|
| Ystafell Joy Welch, Llawr E | DVD - Aml-ranbarth | Oes | Mae angen ffonau clust |
| Llawr F (Crel Wydr 1) | DVD - Aml-ranbarth | Oes | Mae angen ffonau clust |
| Llawr F (Crel Wydr 3) | DVD - Aml-ranbarth | Oes | Mae angen ffonau clust |
Thomas Parry
| Lleoliad | DVD | Fideo | Defnydd |
|---|---|---|---|
| Ystafell Ymchwil | Na | Oes | Darperir ffonau clust |
Ystafelloedd Cyfrifiadur
Ceir peiriant DVD ymhob cyfrifiadur yn ystafelloedd cyfrifiadur y Brifysgol ac mae Windows Media a VLC wedi eu gosod ar bob un ohonynt. Os cyfyd yna broblemau wrth wylio eich DVD gyda Windows Media Player yna rhowch gynnig ar VLC. Bydd angen ichi ddefnyddio ffonau clust. Os nad oes rhai gennych gellir prynu set oddi wrth y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Ystafelloedd Dysgu
Mae yna gyfleusterau gwylio DVD a Fideo ymhob un o’r ystafelloedd dysgu ar yr amserlen ganolog. Gellir cael manylion llawn yma.