Newyddion a Digwyddiadau

Am y diweddaraf am ein systemau a'n gwasanaethau, ewch i'r Blog Diweddariadau Gwasanaethau GG

Sesiynau Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu 23/3 - 15/04

18/03/2024

Mawrth

20/03 Shut Up and Write! – Writing Retreat (L&T In-Person)

Ebrill

11/04    Staff Workshop on Artificial Intelligence: How can AI support Learning, Teaching, Research and Admin

15/04    Re-thinking Assessment in the Age of AI (L&T)

Amserau/archebu

Oriau agor Llyfrgell Hugh Owen dros y Pasg

14/03/2024

Dyma oriau agor Llyfrgell Hugh Owen dros gyfnod y Pasg:

Sadwrn 23 Mawrth: 00:00 - 22:00

Sul 24 Mawrth - Iau 28 Mawrth: 08.30 - 22:00

Gwener 29 Mawrth - Mawrth 2 Ebrill: Llyfrgell Hugh Owen ar gau // IdF ar agor 24 awr

Mercher 3 Ebrill - Gwener 12 Ebrill: 08:30- 22:00

Sadwrn 13 Ebrill: 08:30-00:00

Sul 14 Ebrill - Sadwrn 01 Mehefin: ar agor 24/7

Bydd Ystafell Iris de Freitas ar agor pan fydd y Llyfrgell ar gau. Cewch fynediad trwy Ystafell Hermann Ethe (cyfarwyddiadau yma https://ow.ly/LSkI50QT68x)

Gwiriwch ein holl oriau agor yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/about/opening-hours/

Pasg hapus i bawb!

Gwaith cynnal a chadw Turnitin ddydd Sadwrn 16.03.2024 14:00-18:00

22/02/2024

Ni fydd Turnitin ar gael i’w ddefnyddio rhwng 14:00 a 18:00 ddydd Sadwrn 16 Mawrth 2024 oherwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd.

Yn ystod y cyfnod, ni fydd modd i chi gyflwyno na graddio asesiadau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Galwad am Gynigion: 12fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol

14/03/2024

Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 12fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol Prifysgol Aberystwyth a gynhelir rhwng 10-12 Medi 2024.

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, e-bostiwch udda@aber.ac.uk.   

Gwelliannau i Ddiogelwch SharePoint

14/03/2024

Bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn ymgymryd â nifer o newidiadau i wella diogelwch SharePoint. Byddwn yn cysylltu â rhai perchnogion safleoedd i adolygu aelodaeth y safle a'r defnydd a wneir ohono.

Rhwydwaith mewn Perygl - 26ain o Fawrth

13/03/2024

Mae’r rhwydwaith mewn perygl rhwng 7am a 10am ddydd Mawrth 26 Mawrth i gynnal diweddariadau hanfodol ar wal dân y Brifysgol.

Ymddiheurwn am unrhyw aflonyddwch y gall hyn ei achosi.

Gwobrau Amlygu Prifysgol Aberystwyth yn Llyfrgell Hugh Owen

11/03/2024

Dysgwch ragor am Wobrau Amlygu Prifysgol Aberystwyth trwy ymweld â'r arddangosfa yn Ystafell Iris de Freitas, Llyfrgell Hugh Owen lle byddwn yn dathlu cyfraniadau arbennig menywod a phobl anneuaidd i'n cymuned yma ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ydych chi'n gwybod pa sgiliau academaidd sydd gennych?

11/03/2024

Ewch i'r stondin ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen yr wythnos hon i gael gwybod!

Dysgwch fwy am sut y gall SgiliauAber eich helpu i wella'r sgiliau hyn.

https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/

Sesiynau Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu 11/03 - 15/04

11/03/2024

Mawrth

11/03 Generative AI Discussion Forum (L&T Online)

20/03 Shut Up and Write! – Writing Workspace (L&T In-Person)

Ebrill

11/04    Staff Workshop on Artificial Intelligence: How can AI support Learning, Teaching, Research and Admin

15/04    Re-thinking Assessment in the Age of AI (L&T)

Amserau/archebu

Cyfres o weminarau Vevox

12/03/2024

Mae Vevox yn cynnal dau weminar ar-lein i arddangos ffyrdd arloesol y gellir integreiddio Vevox i addysgu. 

I weld y sesiynau a chofrestru i gael lle, gweler ein blog diweddar.

SgiliauAber

04/03/2024

Cyrsiau am ddim i ddatblygu a gwella eich sgiliau academaidd, astudio a phroffesiynol.

 

Porwch y rhestr o gyrsiau yma: https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/skills-workshops/

Dechrau pennod newydd - Dysgwch mawr am apiau i helpu eich arferion darllen

23/02/2024

?? Darllenwch ein blogbost am fwy o wybodaeth: Dechrau pennod newydd – Apiau i helpu eich arferion darllen ?? | (aber.ac.uk)

Creu'r gweithle gorau

22/02/2024

Mae un o’n Pencampwyr Digidol Myfyrwyr wedi rhannu eu cyngor ar greu'r gweithle gorau.

Darllenwch eu blogbost yma: https://wordpress.aber.ac.uk/digital-capabilities/cy/2024/02/19/strategaethau-ar-gyfer-creur-gweithle-gorau/

Pam defnyddio SgiliauAber? Tip #3

13/02/2024

P'un a oes angen arweiniad ysgrifennu academaidd, cyngor gyrfa, llyfrgell, lles neu gymorth technegol arnoch (...a llawer mwy!) bydd gennych fynediad at gefnogaeth pwrpasol 1:1 i'ch helpu i gyrraedd eich potensial academaidd llawn.

Archwiliwch y rhestr o wasanaethau cymorth 1:1 yn SgiliauAber.

https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/one-to-one-appointments/

Amserlen gweithdai sgiliau newydd ar gael nawr

01/02/2024

Mae amrywiaeth eang o weithdai sgiliau yn cael eu cyflwyno ar-lein a wyneb yn wyneb ar y campws. Caiff gweithdai eu hychwanegu'n rheolaidd, felly cadwch olwg i weld beth sy'n newydd. https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/skills-workshops/