Gŵyl Lyfrau PA - ddydd Llun 5 Rhagfyr 2011
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn falch o gynnal Gŵyl Lyfrau gyntaf PA ddydd Llun 5 Rhagfyr. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfweliadau ag awduron academaidd a lleol, dangosiadau o storïau digidol, cyfle i brynu rhai o’r llyfrau a drafodir. Bydd gwin poeth a mins peis ar gael.
Mae croeso cynnes i bawb – bydd y noson yn dechrau am 5.00pm ar lawr gwaelod Llyfrgell Hugh Owen.
5.00
Croeso – Rebecca Davies, Dirprwy Is-ganghellor
Agoriad – Yr Athro April McMahon, Is-ganghellor
5.15 – 6.00
Sgyrsiau byr gan bedwar o’n hawduron, gyda chyfle i ofyn cwestiynau
- Yr Athro Martin Barker – A ‘toxic genre’: the Iraq War films
- Karl Drinkwater – Turner (hunan gyhoeddiad)
- Simon Pierse – Australian Art and Artists in London, 1950 - 196
- Elgan Philip Davies – Yr Hen Goleg/The Old College – ynghyd â lluniau neilltuol o archifau’r Coleg.
6.00 – 7.00
Cyfle i gyfarfod a sgwrsio gyda nifer o awduron, i edrych ar eu llyfrau ac i weld cyfweliadau fideo a storïau digidol gan rai ohonynt.
Storiau Digidol
Trwy gymorth nawdd gan Llywodraeth Cymru a CyMAL, mae Gwasanaethau Gwybodaeth wedi ymuno â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gynnal gweithdy ar adrodd storiau digidol er mwyn i awduron lunio storiau digidol am y broses o ysgrifennu eu llyfrau. Mae stori ddigidol yn cynnwys adroddiad wedi ei recordio a gyfoethogir gan gyfres o ddelweddau. Bydd y storiau digidol yn cael eu dangos yn ystod yr Wyl.
- Diana Ashworth - Put Out to Grass
- Kat Dawes - All Lined Up - Surfing
- Simon Garrett - Teddy and the Darkgate
- Liz Jones - Views from a High Place
- Helen Carey - A Three Minute Warning - Lavender Road, Some Sunny Day, On a Wing and a Prayer
Cyfweliadau
Cynhaliwyd cyfweliadau fideo byr gyda nifer o awduron ac fe’u dangosir yn ystod yr Wyl.
- Yr Athro Emeritws Paul A.S. Ghuman - British Untouchable: A study of Identity and Education
- Cynan Jones - The Long Dry and Everything I Found on the Beach
- Brigid Rose - The City of Lists
- Robin La Trobe - Flower Maiden, Owl Woman
- Mihangel Morgan - Pantglas
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Lywodraeth Cymru a CyMAL.