Diwrnod Adfer ar ôl Argyfwng TGCh

 

Beth yw Diwrnod Adfer ar ôl Argyfwng TGCh y Gwasanaethau Gwybodaeth?

Mae’n bwysig profi i weld a yw'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn barod i ymdopi pe bai argyfwng yn digwydd a fyddai’n amharu ar ein Gwasanaethau TG. Felly, unwaith y flwyddyn, rydym yn rhoi prawf ar ein cynlluniau drwy efelychu problem argyfyngol. Rydym yn rhoi gwybod am Ddiwrnod Argyfwng y GG mewn da bryd drwy ein gwasanaeth Newyddion Gwasanaethau Gwybodaeth, ar y we, Facebook a Thrydar:

Mae'r profion yn drwyadl ac o ganlyniad maent yn tarfu yn sylweddol ar y gwasanaethau TGCh a'r llyfrgelloedd trwy gydol y diwrnod. Mae hyn yn cynnwys y we, AberLearn Blackboard, ebost, AStRA, ABW, Primo catalog y llyfrgell, e-adnoddau a’r gwasanaeth ffôn. Bydd y profion yn cychwyn am 9am a byddant ar ben erbyn 5pm. Byddwn yn rhoi gwybod i'r holl ddefnyddwyr trwy ein sianelau newyddion arferol, gan gynnwys safle Facebook GG http://www.facebook.com/aberuni.gg pan fydd y profion wedi eu cwblhau.

Er mwyn lleihau’r effaith ar ein defnyddwyr, byddwn yn ceisio cynnal y prawf yn ystod cyfnodau pan fydd llai o ddefnyddwyr gweithredol nag ar unrhyw adeg arall o’r flwyddyn. Argymhellwn eich bod yn cadw’r wybodaeth hon mewn cof wrth gynllunio’ch gwaith gan y bydd y prawf yn tarfu’n sylweddol ar ein gwasanaethau cyfrifiadurol a chyfathrebu ar y diwrnodau hynny

Am ragor o wybodaeth, gweler y cyflwyniad a roddwyd gan y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Tim Davies i’r adran Gyfrifiadureg.