Diwrnod Hwyl Ewrop – yn hyrwyddo’r Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd

Gwnaeth Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) helpu’r Brifysgol i ddathlu Diwrnod Ewrop 2011 ar ddydd Iau, Mai 12fed trwy hyrwyddo’r Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd (CDE).

Lleolir y Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth (PA) yn Llyfrgell y Gyfraith ar Lefel E Llyfrgell Hugh Owen. Gall staff a myfyrwyr PA ei defnyddio a hefyd bobl sydd am gael gwybodaeth am yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r holl ddeunyddiau yn y GDE yn cael eu cynnwys yng nghatalog y llyfrgell Primo a rhoddir y rhagddodiad EDC iddynt a’r rhif dosbarth KW.

Ymhlith gweithgareddau’r Diwrnod Hwyl cafwyd:

  • Stondin ar thema’r CDE yng Nghanolfan y Celfyddydau gyda thaflenni, posteri a melysion
  • Cwis y GDE i roi prawf ar wybodaeth pobl o’r Undeb Ewropeaidd gyda 3 o docynnau llyfrau yn cael eu cynnig i’r buddugwyr
  • Llwybr hwyl cod QR i Lyfrgell y Gyfraith
  • Stondin yn y GDE gyda staff Gwasanaethau Gwybodaeth wrth law i ateb cwestiynau

  

 

Addurnwyd Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gyfraith gan faneri a balŵns.

I gloi, dyma rai o’r atebion buddugol am Ewrop!

“Roses are red
violets are blue
I’m studying in the UK
thanks to the EU”

“27 states in the EU
joined together for the benefit of you.
Making Europe a prosperous place,
no discrimination of cultures or race”.

“27 states together
getting on like birds of a feather”