Arholiadau - Llwyddwch

Er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i ganolbwyntio ar lwyddo mewn arholiadau wrth iddynt ddechrau ar eu modiwlau newydd, mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnal digwyddiad i ddathlu sgiliau arholiadau yn Llyfrgell Hugh Owen ar brynhawn Chwefror 9fed.

Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cynnwys cinio, stondinau gwybodaeth a sesiwn holi ac ateb, ac yn cloi gyda Chonga Darganfod Adnoddau a raffl lle cynigir Kindle fel gwobr. Caiff y digwyddiad ei gyllido gan raglen genedlaethol Llyfrgelloedd am Oes i ddathlu arferion da, tynnu sylw at adnoddau a herio’r ddelwedd ystrydebol o lyfrgelloedd. Mae’n annog myfyrwyr i edrych yn ôl ar eu perfformiad mewn arholiadau diweddar ac yn canolbwyntio ar sgiliau, adnoddau a thechnegau y gellir eu defnyddio yn y dyfodol.

Bydd stondinau gan y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr, Urdd y Myfyrwyr, Gwasanaethau Gyrfaoedd a’r Siop Lyfrau. Dangosir ffilm fer am fyfyrwyr yn trafod eu gwaith adolygu a phrofiad o arholiadau ar ddechrau’r sesiwn Hawl i Holi, pryd fydd panel o arbenigwyr yn ateb cwestiynau ar sut i lwyddo ac astudio ar gyfer gradd dda. Daw’r dathlu i ben gyda Chonga Darganfod Adnoddau a fydd yn tynnu sylw at fannau allweddol yn y llyfrgell, a raffl ar gyfer y Kindle.

Llyfrgell Hugh Owen – Chwefror 9fed

13:00  Lefel D    Stondinau Gwybodaeth a Chinio

14:30  Lefel E     Hawl i Holi? Sesiwn holi ac ateb gyda phanel o arbenigwyr – bydd y rhai sy’n bresennol yn cael cyfle i ennill Kindle mewn raffl

15:30  Lefel E     Conga Darganfod Adnoddau. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu cynnwys yn y raffl

16:00  Lefel D     Raffl y Kindle

Dewch draw! Nid oes angen archebu lle.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, os gwelwch yn dda, cysylltwch â is-comms@aber.ac.uk