Gwelliannau i arwyddion y llyfrgelloedd

Er mwyn ei gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr ddod o hyd i adnoddau a gwasanaethau yn y llyfrgelloedd, cafodd yr arwyddion yn Llyfrgell Thomas Parry eu safoni a'r arwyddion yn Llyfrgell Hugh Owen eu gwella yn 2014 a dechrau 2015. Mae'r gwaith yn cynnwys arwyddion cyfeirio newydd ar furiau pob llawr Llyfrgell Hugh Owen sy'n gliriach ac yn rhoi mwy o wybodaeth na'r rhai cynt. Hefyd, er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r llyfrgelloedd yn haws, ychwanegwyd lleoliadau'r llyfrgelloedd at fapiau'r Brifysgol: http://www.aber.ac.uk/en/is/library/locations/

Cyfeiriaduron ac arwyddion Llyfrgell Hugh Owen ac Llyfrgell Thomas Parry