Rhwymo

Rhwymiad Dur Dros Dro

Rhwymiadau sydd â meingefn dur anhyblyg, cloriau clir a cherdyn du ar y cefn.
Caiff y tudalennau eu gludo i feingefn y rhwymiad.

Nifer y tudalennau (yn fras) 1-100 101-200 201-285 286-325
Pris £4.00 £4.50 £5.00 £5.50

Gall y prisiau newid

Nid yw’n arferol rhoi labeli meingefn ar rwymiadau dros-dro. Dim ond ar rwymiad dur traethodau PhD a MPhil y ceir labeli meingefn fel rheol. Os yw eich gwaith angen label o’r fath, ychwanegwch £1.00 at bris y rhwymiad.

Rhwymo Caled

Mae gan y rhwymiadau hyn gloriau caled sy’n cynnwys labeli meingefn. Caiff y tudalennau eu gludo i feingefn y rhwymiad. Gellir cyflenwi’r rhain mewn Du, Graffeit neu Las Tywyll, yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael ar y pryd.

 Nifer y tudalennau (ynfras)
Papur 80gsm
 ABC
1-100

£8

£13 £15
101-220 £10 £15 £17
220-325 £12 £17 £19

Gall y prisiau newid

Paratoi ar gyfer rhwymo

Cyn cyflwyno gwaith i’w rwymo, sicrhewch fod yr holl ddeunydd y bwriedir ei rwymo mewn cyflwr da.
Rhwymir tudalennau yn yr union drefn y’u cyflwynwyd.
Dim ond tudalennau maint A4 a dderbynnir; ni allwn fynd ati i docio tudalennau nad ydynt o’r maint yma.

Yn bwysicach fyth, caniatewch ddigon o amser i gwblhau’r gwaith rhwymo. Er y byddwn yn ceisio rhwymo eich gwaith cyn gynted â phosibl, dylech gadw mewn cof mai’r ychydig ddyddiau cyn dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith yw’r cyfnodau prysuraf. Felly gwnech yn siwr byddwch yn gadael 3 diwrnod gwaith i'ch gwaith caely ei rhwymo.

Ail-rwymo

Yng nghyswllt gwaith sydd wedi ei rwymo dros-dro ar ôl arholiad llafar, gallwn ychwanegu ambell dudalen wedi ei chywiro os oes raid, a hynny cyn ail-rwymo’r gwaith mewn rhwymiad caled, parhaol. Efallai y byddwn yn codi pris os oes llawer o dudalennau i’w gosod i mewn. Sylwer nad ydym yn gallu gwarantu’r canlyniad terfynol.

D.S. Sicrhewch fod y DATGANIADAU LLOFNODEDIG GWREIDDIOL wedi eu cynnwys lle bo angen.

Oriau agor

Dydd Llun - Dydd Iau 08:30 -17:00
Dydd Gwener 08:30 - 16:30