Cerdyn Aber
Mae eich Cerdyn Aber yn adnodd pwysig sy’n eich galluogi i ddefnyddio nifer o gyfleusterau a gwasanaethau gan gynnwys:
- Benthyca o’r llyfrgelloedd
- Cyfleusterau cyfrifiadur 24-awr
- Cyfleusterau argraffu a llungopïo
- Undeb y Myfyrwyr
- Canolfan Chwaraeon y Brifysgol (bydd angen i chi dalu ar wahân i ddefnyddio’r cyfleusterau hynny)
- Prynu bwyd ym mwytai’r Brifysgol
Ar gerdyn Aber ceir eich rhif myfyriwr neu staff, eich ffotograff, eich categori defnyddiwr a pheth gwybodaeth ddigidol, gan gynnwys cod bar ar gyfer defnyddio systemau’r Brifysgol.

Gwneud cais am gerdyn
Mae hawl gan holl fyfyrwyr ac aelodau staff cyfredol Prifysgol Aberystwyth gael Cerdyn Aber. I sicrhau bod eich cerdyn Aber yn barod i chi pan fyddwch yn cyrraedd y campws bydd yn rhaid i chi wneud cais amdano o leiaf wythnos ymlaen llaw.
- Gall myfyrwyr sydd wedi cychwyn eu cyfrif e-bost Prifysgol wneud cais ar-lein am eu cerdyn Aber trwy lwytho ffotograff digidol i fyny ar eu ffeil myfyriwr.
- Gwneir trefniadau ar wahân i fyfyrwyr o’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes.
- Gall aelodau o staff wneud cais am gerdyn Aber trwy lenwi Cerdyn Cofrestru GG, sydd ar gael o Lyfrgell Hugh Owen, atodi llun maint pasbort a’i ddychwelyd i’r Ddesg Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Llyfrgell Hugh Owen.
I gael rhagor o wybodaeth am gategorïau eraill o ddefnyddwyr a fydd efallai yn gallu defnyddio Cerdyn Aber ac adnoddau’r llyfrgell, gweler Defnyddio’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Yn achos defnyddwyr allanol neu ddefnyddwyr nad ydynt wedi cofrestru efallai y bydd yn rhaid gwirio manylion yr ymgeisydd ymhellach ac mewn achos o’r fath bydd y GG yn ceisio rhoi cardiau defnyddwyr newydd o fewn 48 o oriau gwaith i’r amser y derbyniwyd y cais gwreiddiol.
Defnyddio eich cerdyn
Bydd angen eich Cerdyn Aber bob tro y byddwch:
- yn benthyca llyfr, naill ai o’r Ddesg Ymholiadau neu o’r Peiriannau Hunan Fenthyca yn y Llyfrgelloedd
- yn defnyddio Ystafell Gyfrifiaduron 24 awr
- angen gwneud llungopïau neu argraffu ar ein peiriannau argraffu/llungopïo hunan wasanaeth.
Ni ddylech adael i bobl eraill ddefnyddio eich cerdyn o dan unrhyw amgylchiadau.
Wrth ddefnyddio eich cerdyn i argraffu a llungopïo mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â Chytundeb Hawlfraint y Brifysgol
Rhif PIN y Llyfrgell
Mae cyfleusterau hunan wasanaeth ar gael yn llyfrgelloedd PA. Mae angen defnyddio rhif PIN gyda’ch cerdyn Aber i ddefnyddio’r rhain. Gweler Rhif PIN y llyfrgell am fanylion pellach.
Cardiau newydd
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r GG cyn gynted â phosibl os ydych yn colli eich cerdyn, os yw’n cael ei ddwyn neu os nad yw’n gweithio. Bydd cerdyn coll yn cael ei flocio hyd nes y daw i’r golwg neu hyd nes y cyflenwir un arall yn ei le.
Dyma’r costau ar gyfer cardiau newydd:
- Cerdyn coll: £11.00
- Cerdyn wedi torri: £2.00
- Cerdyn a ladratwyd (lle rhoddir rhif adrodd troseddol yr heddlu): £2.00
Codir tâl am roi cardiau newydd i dalu am gostau’r deunyddiau a’r prosesau sydd ynghlwm wrth wneud y cerdyn newydd.
Fel arfer y mae cardiau newydd ar gael o fewn 24 - 48 awr i’r taliad.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chi gysylltu â ni.