Argraffu Fformat Mawr (Posteri)

Cyfryngau a Gwerthiannau beiriant argraffu Canon iPF8100, 12 lliw, fformat mawr 44” o led
Gallwn argraffu hyd at faint A0, sy’n ddelfrydol ar gyfer baneri a phosteri.

Mae gennym dri chyfrwng gwahanol:

  • papur di-sglein
  • papur ffotograffig
  • a chynfas
 Papur Di-sglein  Papur ffotograffigCynfas
A0 £25* £30* £36
A1 £15* £20* £30
A2 £10* for 1
£15* for 2
£15* fpr 1
£20* for 2
POA
A3 £5* £7* POA
A4 £2.50* £4* POA

*Codir TAW onibai fod yr eitemau yn cael eu prynu’n  fewnol  trwy gyfrwng archeb bwrcasu fewnol

Manylion ar gyfer Argraffu Fformat Mawr

PDF
  • Rhaid i ddelweddau fod yn 300 dpi i gael yr ansawdd gorau
  • Rhaid mewnosod yr holl ddelweddau
  • Rhaid mewnosod y ffontiau
  • Rhaid i ffeiliau gynnwys marciau tocio ac estyn os bydd angen
Adobe Photoshop
  • Rhaid i ddelweddau fod yn 300dpi i gael yr ansawdd gorau
  • CMYK neu RGB
  • Rhaid gwastatáu haenau
  • Cadw fel .TIF neu .JPEG
  • Rhaid i ffeiliau gynnwys marciau tocio ac estyn os bydd angen
Adobe Illustrator
  • Gwnewch yn sicr fod delweddau sy’n cael eu mewnforio yn 300 dpi i gael yr ansawdd gorau
  • Rhaid mewnosod delweddau
  • Rhaid i’r holl ffontiau a ddefnyddir gael eu troi yn amlinelliadau neu’u cyflenwi
  • Rhaid i ffeiliau gynnwys marciau tocio ac estyn os bydd angen
Adobe InDesign
  • Gwnewch yn sicr fod delweddau sy’n cael eu mewnforio yn 300 dpi i gael yr ansawdd gorau
  • Rhaid mewnosod y delweddau
  • Rhaid cyflenwi’r ffontiau a ddefnyddir
  • Rhaid i ffeiliau gynnwys marciau tocio ac estyn os bydd angen
Microsoft Office a Microsoft Publisher

NID yw Microsoft Word, PowerPoint a Publisher wedi eu bwriadu ar gyfer argraffu fformat mawr ac ni ddylid eu defnyddio. Ond fe wyddom mai dim ond y cymwysiadau hyn sydd gan lawer o bobl. Os ydych yn creu rhywbeth ar gyfer argraffu fformat mawr mewn cymhwysiad Microsoft, cadwch at y nodiadau canlynol i gael y canlyniadau gorau.

Cadw posteri A1 yn PowerPoint

Crëwch dudalen o’r maint cywir ar gyfer A1

  • Page setup – Custom – (59.4cm x 84.1cm)
  • Lluniwch y poster

I gadw eglurder y ddogfen yn addas i’w hargraffu ar fformat mawr:

  • File
  • Save As
  • Other formats (dewiswch JPEG)
  • Yn y blwch fformatau eraill clicliwch ar Tools
  • Compress picture
  • Options
  • Dad-ddewiswch y botwm radio sy’n dweud:
  • Automatically perform basic compression on save
  • Dewiswch y botwm radio sy’n dweud:
  • Target output 220ppi
  • Ok
  • Ok
  • Save
Cadw posteri A1 yn Publisher
  • Crëwch ddalen o’r maint cywir, sef 59.4cm x 84.1cm ar gyfer A1
  • Lluniwch y poster.

I gadw eglurder y ddogfen yn addas i’w hargraffu ar fformat mawr:

  • File
  • Save as
  • Save as type
  • Dewiswch JPEG
  • Yn y blwch Save As, cliciwch ar Change
  • Dewiswch y botwm radio sy’n dweud:
  • High quality printing on commercial press (300dpi)
  • Ok
  • Save

Oriau agor

Dydd Llun - Dydd Iau 08:30 -17:00
Dydd Gwener 08:30 - 16:30