Gwasanaethau wedi eu staffio
Mae ein llungopiwyr nerthol du a gwyn yn caniatáu inni ddarparu gwasanaeth llungopïo ac argraffu cyflym, proffesiynol a chost-effeithiol, gan gynhyrchu copïau A4 ac A3 o safon uchel.
Rydym yn cynnig:
- Argraffu Laser
- Llun-gopïo
- Chwistrell-argraffu
- Lamineiddio
- Rhwymo
Gallwn gynhyrchu:
- Taflenni
- Cardiau
- Cardiau Post
- Cardiau Busnes
- Labeli Gludiog
- Newyddlenni
- Gwahoddiadau
- Ffotograffau
- Posteri
Gellir cyfosod, styffylu a rhwymo gwaith yn llyfrynnau, ei blygu’n bamffledi neu ei gyflwyno’n syml fel tudalennau rhydd.
Gallwn argraffu o gopïau parhaol (yn uniongyrchol o lyfrau, ffotograffau, darluniau lliw, crefftwaith), e-bost, gyriannau fflach USB neu gryno-ddisgiau ar bapur 80gsm neu 100gsm o ansawdd da, ar gardiau (hyd at 250gsm), neu ar dryloywluniau i uwchdaflunydd.
Os ydych angen papur (80gsm) neu gardiau (160gsm) lliw ar gyfer eich gwaith, mae gennym ddewis cyfyngedig o bapur a chardiau lliw. Fel arall, gallwch ddod â’ch papur neu gerdyn lliw eich hun i ni. 120gsm yw’r cerdyn trymaf y gallwn argraffu arno.
Rydym hefyd yn argraffu ar bapur safon-ffotograffau. Wedi eu hargraffu gan ddefnyddio technoleg chwistrell-inc, gallwn gynnig copïau o ffotograffau ar bapur gorffeniad sglein, sidan neu ddi-sglein
Hawlfraint:
Mae’r Brifysgol yn rhwym wrth reoliadau llym parthed copïo deunydd sydd wedi ei gyfyngu gan hawlfraint.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr holl gopïo a wneir gennych, neu a wneir gan y Cyfryngau a Gwerthiannau ar eich rhan, yn cydymffurfio â chanllawiau’r Asiantaeth Drwyddedu Hawlfraint.
Cyfrifoldeb y sawl sy’n gwneud cais am gopïau yw sicrhau bod yr holl waith copïo a ymgymerir ganddynt – neu a gyflawnir gan y Gwasanaethau Cyfryngau ac Argraffu ar eu rhan - yn disgyn oddi fewn i’r cyfyngiadau a osodir gan y Cytundeb Trwyddedu Hawlfraint neu ewch i wefan yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint
Oriau agor
| Dydd Llun - Dydd Iau | 08:30 -17:00 |
| Dydd Gwener | 08:30 - 16:30 |