Rheoliadau a Chanllawiau'r Gwasanaethau Gwybodaeth

Mae pawb sy’n defnyddio’r gwasanaethau cyfrifiadurol a ddarperir gan Brifysgol Aberystwyth yn cael eu rheoli gan Reoliadau, Polisïau, Canllawiau a Chodau Ymarfer amrywiol.

Rheoliadau

Mae Senedd y Brifysgol yn cytuno ar y Rheoliadau sy’n gosod cyfrifoldebau ynghylch sut mae defnyddio adnoddau cyfrifiadurol. Wrth gofrestru i ddefnyddio’r adnoddau a gynigir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth rydych yn cytuno i gadw at un gyfres neu fwy o Reoliadau sy’n cael eu hategu â chamau disgyblaethol os ydych yn eu hanwybyddu:

Polisïau Prifysgol Aberystwyth

Mae’r polisïau’n gosod amodau ar gyfer defnyddio adnoddau cyfrifiadurol. Maent yn cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Gwybodaeth Reoli’r Brifysgol

Canllawiau

Mae’r canllawiau yn ehangu ar y Rheoliadau a’r Polisïau, gan egluro ymhellach gyfrifoldebau’r defnyddwyr

Cyngor gan y Gwasanaethau Gwybodaeth

Cyngor a chyfarwyddyd am agweddau amrywiol ar ddefnyddio cyfrifiaduron i helpu defnyddwyr i ddeall eu cyfrifoldebau a manteisio i’r eithaf ar eu hadnoddau cyfrifiadurol.

Datganiadau

Manylion am y gwasanaethau a gynigir i fyfyrwyr ac adrannau academaidd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth: