Polisi Gofal Cwsmeriaid y Gwasanaethau Gwybodaeth

Ein hymrwymiad i’n cwsmeriaid:

  • Trin ein holl gwsmeriaid â pharch a chwrteisi;
  • Ceisio darparu gwasanaeth defnyddiol a chyfeillgar i bawb;
  • Sicrhau bod ein cwsmeriaid yn ganolbwynt i’n gwasanaeth;
  • Ymateb i anghenion cwsmeriaid wrth ddatblygu ein gwasanaethau, gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd o arolygon defnyddwyr rheolaidd a’n hadnoddau adborth defnyddwyr;
  • Bod yn ymwybodol o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth gynorthwyo ein holl gwsmeriaid;
  • Gwisgo ein Cardiau Aber a rhoi ein henwau i’r holl gwsmeriaid yn ôl y gofyn ac wrth gyfathrebu’n ysgrifenedig;
  • Ceisio darparu’r gwasanaeth llawnaf posibl a cheisio cynnal dibynadwyedd ein gwasanaethau o fewn cyfyngiadau’r adnoddau sydd ar gael;
  • Hysbysebu ein gwasanaethau, ein Rheoliadau a Chanllawiau a dangos ein horiau agor rhoi gwybod i gwsmeriaid am unrhyw newidiadau;
  • Darparu gwasanaeth proffesiynol i’n cwsmeriaid a hyfforddi ein staff mewn gofal cwsmeriaid;
  • Darparu ffurflen adborth ar-lein yn ein holl lyfrgelloedd a chynnal arolygon rheolaidd o farn defnyddwyr;
  • Ceisio ymateb i sylwadau wedi’u llofnodi o fewn 3 diwrnod gwaith;
  • Defnyddio sylwadau ac awgrymiadau cwsmeriaid i helpu i wella ein gwasanaeth.

Gall cwsmeriaid ein helpu i gyflawni hyn trwy:

  • Trin staff y Gwasanaethau Gwybodaeth a chwsmeriaid eraill â pharch a chwrteisi;
  • Gofalu am eiddo, offer ac adnoddau’r Gwasanaethau Gwybodaeth;
  • Cario eich cerdyn Aber pan fyddwch yn ymweld ag unrhyw un o’n llyfrgelloedd neu ystafelloedd cyfrifiaduron a bod yn ymwybodol o’r rheoliadau ar gyfer ei ddefnyddio
  • Dychwelyd eitemau yr ydych yn eu benthyca ar amser;
  • Cadw at Reoliadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth a dilyn gofynion y parthau unigol yn y llyfrgelloedd i gynnal ardaloedd astudio priodol;
  • Cadw at ein polisi sŵn gan gynnwys ein hardaloedd tawel a distaw;
  • Cadw at ein polisi bwyd a diod.

Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Mawrth 2023 a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Mawrth 2025.