Gwesteia tudalennau gwe i ddefnyddwyr nad ydynt yn aelodau o’r Brifysgol
Yn gynnar yn 2004 fe ddiwygiodd y Brifysgol y rheolau sy’n ymwneud â’r cyfleusterau cyfrifiadurol a gynigir i bobl sy’n gadael y Brifysgol ond sy’n cael caniatâd i barhau i ddefnyddio gwasanaethau cyfrifiadurol ac i ymwelwyr sy’n cael yr hawl i ddefnyddio gwasanaethau cyfrifiadurol Prifysgol Cymru.
Bellach ni all cyfrifon cyfrifiadurol yn y categorïau hyn gynnig tudalennau gwe ar unrhyw rwydwaith. Gall defnyddwyr greu tudalennau, wrth gwrs, ond nid oes modd eu ‘cyhoeddi’ yn Prifysgol Cymru nac ar y Rhyngrwyd.
Mae llawer o gyflenwyr gwasanaeth rhyngrwyd masnachol yn cynnig y gwasanaeth hwn bellach. Mae Prifysgol Cymru yn cynnal ei gwasanaethau ar-lein o fewn fframwaith cyfreithiol sy’n fwyfwy caeth, ac nid yw defnyddwyr yn y categorïau hyn yn cydymffurfio’n rhwydd â’r fframwaith rheoleiddiol ar gyfer staff a myfyrwyr cyfredol.
Dylai unrhyw un yn y categorïau hyn sy’n teimlo bod ganddo/i achos i gael darparu tudalennau gwe gysylltu â’r Cofrestrydd er mwyn cael caniatâd penodol.
Mewn rhai achosion efallai y bydd aelod o staff mewn adran eisiau i dudalennau cyn-gydweithiwr neu gyn-fyfyriwr fod ar gael am gyfnod penodol. Gellir trefnu hyn drwy gysylltu â Gwasanaethau Gwybodaeth, ar yr amod mai’r person sy’n gwneud y cais fydd yn gyfrifol am y deunydd ar y tudalennau os cyfyd unrhyw broblem.
Manylion Cyswllt
Roger MatthewsDirprwy Gyfarwyddwr
Gwasanaethau Gwybodaeth
Prifysgol Aberystwyth
Adeilad Llandinam
Penglais
Aberystwyth
SY23 3DB
Ffôn: 01970 62 2471 Ffacs: 01970 62 2587 Ebost: rfm@aber.ac.uk