Defnyddio rhwydwaith Prifysgol Aberystwyth

Mae rhwydwaith cyfrifiadurol Prifysgol Aberystwyth yn rhan o JANET – rhwydwaith addysg ac ymchwil y DU.

Mae’r holl ddefnydd o’r rhwydwaith yn rhwym i Bolisi Defnydd Derbyniol JANET a Rheoliadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Dylech ymgyfarwyddo â chynnwys rhain.

Mae cyfleusterau cyfrifiadurol yn cael eu darparu i ddefnyddwyr awdurdodedig Prifysgol Aberystwyth i gefnogi amcanion academaidd y Brifysgol. Caniateir cyfanswm cyfyngedig o ddefnydd anacademaidd fel braint i’n defnyddwyr cyhyd nad yw yn:

  • torri’r gyfraith
  • mynd yn groes i Bolisi Defnydd Derbyniol JANET
  • defnyddio cymaint o'r lled band neu adnoddau’r rhwydwaith fel y gellid  peryglu defnydd academaidd priodol o'r rhwydwaith gan ddefnyddwyr eraill
  • peryglu diogelwch y rhwydwaith neu ddefnyddwyr eraill
  • torri amodau hawlfraint mewn unrhyw fodd
  • ymyrryd â phreifatrwydd unigolion
  • ail-gyfeirio amser staff fel na allant ganolbwyntio ar gefnogi defnydd  academaidd o’r rhwydwaith
  • tarfu ar neu rwystro eraill rhag defnyddio’r cyfleusterau at ddibenion  academaidd

Gweithgareddau penodol NA chaniateir

  • Rhaglenni Tebyg-i-Debyg (P2P) – rhannu ffeiliau anghyfreithlon
  • Sganio rhwydwaith
  • Defnyddio gwe-gamerau cudd na dangos gweithgareddau unigolion y gellir  eu hadnabod ac nad ydynt wedi rhoi eu caniatâd i gael eu ffilmio
  • Mynediad i ddelweddau, data nag unrhyw ddeunydd arall sy’n  anweddus,  dramgwyddus neu’n aflednais 
  • Anfon e-byst na ofynnwyd amdanynt (spam)
  • Anfon e-byst sy’n tarfu ar rywun, sy’n dramgwyddus, neu’n ddifenwol
  • Postio deunydd ar y we a safleoedd cymdeithasol sy’n tarfu ar rywun, sy’n  dramgwyddus neu’n ddifenwol

Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth gyfrifoldeb i sicrhau y cedwir at Bolisi Defnydd Derbyniol JANET ac mae’n cadw’r hawl i newid ffurfweddiadau’r rhwydwaith i hwyluso hyn a dileu mynediad breintiedig lle bo rhaid.

Diogelwch Cyfrifiaduron

Wrth gysylltu eich dyfais â’n rhwydwaith mae’n hanfodol eich bod yn sicrhau nad yw eich cyfrifiadur yn derbyn ymosodiadau firws, neu’n cael ei hacio neu’i gamddefnyddio gan drydydd person. Mae unrhyw gyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â rhwydwaith y Brifysgol sydd â firws neu sydd wedi cael eu camddefnyddio mewn unrhyw ffordd yn cael eu datgysylltu’n awtomatig.

Mae’n rhaid i chi:

Canllawiau Defnydd Teg ar gyfer y Rhwydwaith Myfyrwyr

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o rwydwaith cyflymder uchel JANET sy’n cysylltu prifysgolion y DU â’r Rhyngrwyd. Ond, mae cyfyngiad o ran y cysylltiad rhwydwaith sydd ar gael i ni. I sicrhau bod yr holl ddefnyddwyr yn mwynhau’r gwasanaeth gorau, beth bynnag fo’r galw ar y rhwydwaith, rydym yn gweithredu polisi defnydd teg.

Wrth fonitro traffig y rhwydwaith rydym wedi darganfod mai nifer fach o ddefnyddwyr y Rhwydwaith Myfyrwyr yn aml sy’n gyfrifol am ddefnyddio’r rhan fwyaf o’r lle ar y rhwydwaith. Mae’r rhai sy’n defnyddio mwy na’u siâr yn effeithio ar y gwasanaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr eraill y rhwydwaith. Bydd y rhai sy’n defnyddio rhaglenni amser real megis teleffoni, camerâu gwe a gemau yn sylwi ar hyn fwyaf oherwydd byddant yn colli llun neu’n profi oediad o bryd i’w gilydd.

Bydd y Polisi Defnydd Teg, trwy leihau’r ystod band a ddefnyddir gan y grŵp bach hwn o bobl, yn golygu gwell gwasanaeth i bawb

Camau Disgyblu

Mae camddefnyddio technoleg cyfathrebu a gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei ystyried yn ddifrifol iawn.
Bydd camau yn cael eu cymryd yn erbyn unrhyw un sy’n camddefnyddio yn ôl rheoliadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth (gallai’r cosbau gynnwys rhwystro mynediad i’r rhwydwaith a/neu ddirwy), gweithdrefnau disgyblu’r Brifysgol ac, os oes amheuaeth o unrhyw weithgarwch anghyfreithlon, efallai y rhoddir gwybod i’r Heddlu am yr unigolion dan sylw.

Diweddarir y Rheoliadau hyn gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’u hadolygwyd ddiwethaf ym mis Mehefin 2022 a byddant yn cael eu hadolygu eto ym mis Rhagfyr 2022