Deddf Troseddau Rhywiol 2003 Adran 46: Lluniau Cam-drin Plant
Canllawiau Prifysgol Aberystwyth i Staff sy'n Defnyddio Cyfrifiaduron fel rhan o'u Gwaith
Mae'r Ddeddf uchod yn ei gwneud yn anghyfreithlon i edrych ar neu gadw lluniau o blant yn cael eu cam-drin, hyd yn oed pe deuid ar eu traws yn ddamweiniol. Peth anarferol iawn fyddai i hyn ddigwydd tra'n defnyddio'r Rhyngrwyd at bwrpasau bob dydd, ond y mae'n gallu digwydd. Nod y canllawiau hyn yw egluro eich cyfrifoldebau yn y maes hwn pan yn defnyddio systemau cyfrifiadurol Prifysgol Abeystwyth.
Rhaid cadw tair rheol mewn cof er mwyn ei gwneud yn llai tebygol fyth bod hyn yn digwydd:
- Peidiwch byth â chlicio ar we-gyswllt sy'n edrych yn amheus
- Peidiwch byth â theipio cyfeiriad http sy'n edrych fel pe bai'n gysylltiedig â'r fath ddeunydd, o bosibl
- Peidiwch byth ag agor ymgysylltiadau o gyfeiriadau nad ydych yn eu hadnabod (cynghorir yn erbyn hyn p'un bynnag er mwyn gwarchod rhag firysau cyfrifiadurol)
Os y deuwch o hyd i luniau yr amheuwch sy'n anghyfreithlon, dylech gysylltu â Gwasanaethau Gwybodaeth a rhoi manylion ynghylch sut y daethoch ar draws y fath ddeunydd yn un o'r moddau canlynol:
- e-bost abuse@aber.ac.uk
- Ffonio'r estyniad mewnol 2479 (01970 622479)
- Ymweld yn bersonol â'r Swyddfa Paratoi Data (E33a) neu'r Ysgrifennydd (C59) yn Adeilad Llandinam gan ddweud y darech drafod achos posbil o gamddefnyddio cyfrifiaduron gydag aelod o'r staff
Dylech wneud hyn ar unwaith, yn gyntaf er mwyn caniatáu i ymchwiliadau gael eu cynnal yn ddi-oed ac, yn ail, i ddangos nad oedd unrhyw fwriad ar eich rhan i gadw'r fath wybodaeth am unrhyw amser cyn i chi adrodd yn ei chylch.
Yn y fath achos, peidiwch â
- Ceisio mynediad i ragor o luniau o'r wefan y daethoch ar ei thraws
- Cadw unrhyw luniau ar arddangoswyd ar eich monitor
- Ymgysylltu unrhyw luniau fel rhan o'r e-bost sy'n hysbysu Gwasanaethau Gwybodaeth ynghylch y deunydd
Pwysig yw sylweddoli bod cael mynediad i luniau cam-drin plant, neu gadw'r cyfryw luniau, yn drosedd ac nad yw honni eich bod yn archwilio deunydd anghyfreithlon posibl yn amddiffyniad, oni bai fod caniatâd arbennig wedi ei roi gan y Brifysgol. Dylech drosglwyddo'r wybodaeth sydd gennych i un o'r cysylltiadau a restrwyd uchod yn ddiymdroi, ymatal rhag ymwneud ymhellach â'r mater, a dileu unrhyw luniau a gadwyd, o bosibl - boed hynny'n fwriadol neu fel data rhyng-gyflwr gan y system. Dyma'r drefn a fydd yn cael ei dilyn ar ôl i'r Gwasanaethau Gwybodaeth gael gwybod am y mater:
- Bydd y wybodaeth benodol rydych chi wedi ei rhoi yn cael ei harchwilio gan nifer fach o'r staff cyfrifiadurol technegol sydd wedi eu henwebu at y dibenion hyn;
- Bydd camau yn cael eu cymryd er mwyn i aelod o staff uwch y Brifysgol weld y deunydd;
- Ni fydd y staff yn parhau i chwilio am ragor o ddelweddau;
- Os bydd yr aelod o'r staff uwch yn cadarnhau ei bod hi'n bosib bod yna ddelweddau anghyfreithlon, bydd y mater yn cael ei basio ymlaen i'r heddlu, os unigolion yng ngwledydd Prydain sydd dan sylw. Os yw'r unigolion y tu allan i wledydd Prydain, Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd fydd yn cael y wybodaeth (eu cylch gorchwyl nhw yw i ymdrin â materion fel hyn ar y cyd â'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a darparwyr gwasanaethau).
Os oes gennych bryderon mwy cyffredinol ynglŷn â’r maes hwn o ddefnydd cyfrifiadurol os gwelwch yn dda cysylltwch â ni.
Mae cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar y Ddeddf. Ceir ei weld yn http://www.cps.gov.uk/publications/docs/mousexoffences.pdf