Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.

Polisi’r Gwasanaethau Gwybodaeth ar Hyfforddiant Sgiliau

Rhagair

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cydweithio’n agos â’r adrannau academaidd a’r gwasanaethau canolog eraill mewn sawl ffordd:

  • Mae’n cynorthwyo’r staff academaidd yn eu gwaith dysgu sgiliau drwy, ymhlith pethau eraill, ddarparu gweddalennau, cyhoeddiadau a sesiynau diweddaru a sesiynau datblygu staff.
  • Mae’n cydweithio’n uniongyrchol â’r myfyrwyr drwy’r Rhaglen Gyflwyno i Fyfyrwyr Newydd, yn ogystal â darparu cyfleoedd iddynt ddysgu sgiliau fel rhan o’u modiwlau allweddol.
  • Mae’n darparu ystod eang o gyrsiau cyfrifiadura a sgiliau defnyddio’r llyfrgell, sy’n cael ei ategu gan wasanaeth cymorthfeydd sy’n rhedeg drwy’r flwyddyn.
  • Yn Aberystwyth mae myfyrwyr yn cael cyflwyniad strwythuredig i’r Gwasanaethau Gwybodaeth (sef y llyfrgelloedd a’r cyfrifiaduron). Mae’n dechrau â chwrs cyffredinol Cyflwyniad i’r Gwasanaethau Gwybodaeth, a drefnir gan y Cyfadrannau yn ystod y penwythnos cyntaf fel rhan o’r Digwyddiadau cyflwyno i bob myfyriwr newydd. Ar ôl hynny ceir cyrsiau ynghylch dechrau yn y Llyfrgell (a drefnir fesul cyfadran) a sesiynau Gwybodaeth Hanfodol ynghylch defnyddio ein Rhwydwaith, sy’n cael eu cynnal yn ystod wythnos gyntaf y tymor.
  • Hefyd mae llyfrgelloedd PA yn cadw casgliadau o ddeunydd i helpu staff a myfyrwyr i ddysgu sgiliau. Mae’r Casgliad Astudio Effeithiol a’r Ganolfan Datblygu a Dysgu Staff, sydd ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen, yn werth tynnu sylw atynt.

Un o amcanion y Gwasanaethau Gwybodaeth (4.6) yw estyn cwmpas, cynnwys a rhawd y rhaglenni cyflwyno, hyfforddi a chynorthwyo presennol fel y caiff myfyrwyr o bob math, gan gynnwys dysgwyr o bell a myfyrwyr ag anghenion arbennig, y sgiliau fydd eu hangen i ddefnyddio gwybodaeth a thechnoleg yn effeithiol yn y gweithle, yn ogystal ag yn yr hinsawdd dysgu newydd.

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi ymrwymo i Gynorthwyo Dysgu drwy:

  • Darparu cymorth a hyfforddiant ynghylch sut mae defnyddio’r adnoddau a’r gwasanaethau y mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn eu cynnig.
  • Cynnig amrywiaeth o hyfforddiant ar Sgiliau Gwybodaeth, lle bydd yr adnoddau ar gael, i ymateb i anghenion ein cwsmeriaid ym mhob rhan o PA.
  • Darparu gwybodaeth, drwy’r dulliau mwyaf addas, ynghylch darparu a defnyddio’r adnoddau a’r gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth.
  • Darparu cymorth personol ynghylch materion cyfrifiadurol a llyfrgellol drwy’r gwasanaethau a gynigir wrth y Desgiau Ymholiadau, Gwybodaeth a Chymorth, a thrwy gyfeirio at staff arbenigol eraill, lle bydd hynny’n briodol.
  • Darparu cyfres o gyrsiau bob semester sy’n cwmpasu’r sgiliau cyfrifiadurol a’r wybodaeth sydd eu hangen mwyaf, i’r staff a’r myfyrwyr i gyd.
  • Darparu sesiynau cyflwyno i fyfyrwyr newydd sy’n cwmpasu gwybodaeth a sgiliau cyfrifiadura sylfaenol.
  • Cyfrannu at raglenni uwchraddedig, gan gynnwys darparu hyfforddiant mewn sgiliau gwybodaeth.
  • Darparu hyfforddiant ychwanegol yn ffurfiol neu’n anffurfiol i’r staff a’r myfyrwyr ym meysydd sgiliau cyfrifiadura, gwybodaeth a thestunau ar gais yr adrannau, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.
  • Cynnig cyngor a chymorth ar ymgorffori sgiliau gwybodaeth i mewn i waith dysgu academaidd.
  • Cynnig cyngor a chymorth ynghylch ddefnyddio’r amgylchedd dysgu electronig lleol ar gyfer gwaith dysgu academaidd.