Cyhoeddi Gweddalennau ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhoi cyfle i gyhoeddio fewn parth aber.ac.uk er mwyn:

  • cefnogi gweithgaredd ymchwil
  • gwella dysgu
  • darparu dulliau o ledaenu gwybodaeth am y Brifysgol i’w haelodau, i ddarpar-staff a myfyrwyr, ac i’r cyhoedd yn gyffredinol.
  • caniatáu i ddefnyddwyr unigol ddarparu gwybodaeth anacademaidd, fel rhan o’r broses gyffredinol o ddysgu am wasanaethau cyfrifiadurol, er mai braint yn hytrach na hawl yw cael caniatâd i wneud hyn.  

Dim ond i staff ar gytundeb ac i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru yn y Brifysgol y mae’r gwasanaeth hwn.

Canllawiau ar gyfer deunydd sy’n deillio o aber.ac.uk

Gan y bydd y cyhoedd yn gyffredinol yn ystyried bod y Brifysgol yn arddel unrhyw wybodaeth a gyflwynir ar dudalennau gwefan PA, y mae’n amlwg y bydd y cynnwys yn effeithio ar y ffordd y mae’r cyhoedd yn ystyried y Brifysgol. Felly, ni ddylai unrhyw berson gyhoeddi gwybodaeth o unrhyw fath mewn ffordd a allai andwyo enw da’r Brifysgol, na darparu deunydd sy’n anaddas i’w ledaenu gan y Brifysgol.  Yn gynwysedig yn hyn mae unrhyw ddeunydd a all arwain at achos sifil yn erbyn y Brifysgol fel cyhoeddwyr y we, megis enllib honedig neu dor hawlfraint.  

Mae'r ddarpariaeth wybodaeth ar gyfleusterau gwe PA yn disgyn o fewn y categorïau canlynol:

  • Gwybodaeth swyddogol y Brifysgol
  • Gwybodaeth adrannol, grwpiau ymchwil, ac unedau gwasanaeth  
  • Gwybodaeth a ddarperir gan aelodau unigol y Brifysgol

Mae yna rhai canllawiau cyffredinol sy’n berthnasol i’r holl gategorïau hyn, a rhai mwy penodol ar gyfer pob un.

Canllawiau Cyffredinol

Dylai pob cyfres o weddalennau:  

  • ddod o fewn Rheoliadau'r Brifysgol, gan gynnwys materion fel lledaenu deunydd tramgwyddus neu aflonyddus;
  • fod yn gyfreithlon o fewn cyfraith trosedd y DU;
  • fod yn gyfreithlon o fewn cyfraith sifil y DU, sy'n ymdrin â materion fel hawlfraint neu enllib.
  • cael ei oruchwylio gan berson a enwir sy'n gyfrifol am y cyflwyniad a'r cynnwys, ac y gellir ei adnabod o'r dudalen we gychwynnol (hafan) lle dylai'r manylion gynnwys eu cyfeiriad e-bost A.U (ar gyfer gweddalennau personol)

Yn ychwanegol, ni ddylid defnyddio deunydd o wefannau eraill ar unrhyw dudalen oddi fewn i barth aber.ac.uk (naill ai'n uniongyrchol neu trwy'r defnydd o fframiau) heb ganiatâd pendant perchennog y deunydd gwreddiol.

Gwybodaeth Swyddogol y Brifysgol  

Mae polisi golygyddol tudalennau canolog y Brifysgol yn rhan o gylch gwaith Grŵp Llywio'r We sy’n cael ei gadeirio gan Ddirprwy Is-ganghellor ac yn adrodd i'r Pwyllgor Rheoli Gwybodaeth. Mae'r grŵp hwn yn adolygu darpariaeth we’r Brifysgol ac yn gwneud argymellion addas am eu datblygiad.  

Gweddalennau Adrannol, Grŵp Ymchwil ac uned gwasanaeth

Dylai pob gweddalen  nodi'n glir mai cyfrifoldeb yr Adran neu'r uned dan sylw ydyn nhw a rhaid i'w tudalen gartref gynnwys enw cyswllt a chyfeiriad e-bost PA fel bod darllenwyr yn ymwybodol pwy sy'n gyfrifol am bolisi golygyddol y tudalennau.   Dylai’r wybodaeth fod yn llwyr gyson â gweithgaredd y grŵp neu’r adran, er y gellid mynegi barn unigol o fewn i gyd-destun gweithgaredd ymchwil cysylltiedig.

  Cyfrifoldeb grŵp neu uned yr Adran yw dyluniad a chynllun y dudalen, ynghyd â chynnwys.  Fodd bynnag, gan fod y tudalennau'n cynrychioli'r Brifysgol, disgwylir iddynt gael eu cynllunio yn unol â chanllawiau Llawlyfr Y Ddelwedd Golegol.  Mae angen defnyddio logo'r Brifysgol a dylai'r logo weithredu fel dolen gyswllt yn ôl i hafan y Brifysgol (www.aber.ac.uk).  

Rhaid i dudalennau yn y categori hyn gynnwys y geiriau ‘Prifysgol Aberystwyth / PA’ neu ‘Aberystwyth University / AU’ yn llawn, neu wedi dalfyrru, yn maes teitl ei hafan.

Wrth ddarparu gwybodaeth swyddogol, dylai adrannau, grŵpiau ac unedau sicrhau cydymffurfiad â'r Polisi Iaith Cymraeg

Y set leiaf o ddata dylai Adrannau rhoi ar y we yw: 

  • manylion cyswllt, a chyfeiriadur staff  
  • darlun cryno o weithgareddau yr adran
  • disgrifiad cryno o’r rhaglenni astudio ar gael
  • manylion am ddiddordebau ymchwil y staff
  • gwybodaeth am yr ymchwil cyfredol
  • cyswllt i'w papurau arholiad modiwlaidd israddedig blaenorol.

Defnyddwyr unigol

Mae'r cyfleuster i ddefnyddwyr cyfrifiaduron unigol gyhoeddi gwybodaeth anacademaidd ar y We ar y sail fod hyn yn gymorth i ddatblygu’r profiad ar wasanaethau  cyfrifiadurol. Fodd bynag, fe'i cynigir fel braint nid fel hawl.

Mae gan ddefnyddwyr felly ddyletswydd i sicrhau eu bod yn defnyddio’r adnoddau yn gyfrifol. Bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn gweithredu yn erbyn defnyddwyr sy’n camddefnyddio’r fraint hon. Un canlyniad posibl o gamddefnyddio’r adnoddau fyddai colli’r hawl i gyhoeddi gweddalennau, er y gellid gweithredu ymhellach ac yn llymach mewn achosion lle caiff y Rheoliadau eu torri’n ddifrifol.

Rhaid cynnwys ymwadiad hefyd sy'n nodi nad oes gan y Brifysgol gyfrifoldeb uniongyrchol am y cynnwys a rhoi manylion cyswllt'r unigolyn a chyfeiriad E-bost Prifysgol Aberystwyth.  Dyma enghraifft:

Mae'r wybodaeth a geir ar y dudalen hon a thudalennau eraill gennyf i, Fred Smith (xxx@aber.ac.uk), fy nghyfrifoldeb personol fy hun yw'r tudalennau ac nid cyfrifoldeb Prifysgol Aberystwyth.  Hefyd, fy marn i yw unrhyw farn a fynegir ac ni ddylid ei hystyried yn farn P. A.  Ni chaniateir defnyddio Logo na Arfbais y brifysgol ar weddalennau personol.

Cwynion

Mae’r wybodaeth ar Wneud Cwyn am Ddeunydd Ar-lein sy’n tramgwyddus neu’n annerbyniol yn egluro sut y gallwch gysylltu â PA os teimlwch fod rhywun wedi cyhoeddi deunydd nad yw’n cydymffurfio â’r rheolau hyn a sut yr ymdrinnir â’r gŵyn.