Adnoddau Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Deunyddiau printiedig

Lleolir y prif ddeunyddiau printiedig e.e. llyfrau, cyfnodolion a chyfeirlyfrau cyflym ar gyfer Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig mewn rhai lleoliadau.

Lleolir y prif adrannau ar gyfer Gwyddorau Biolegol ar Lefel E (llawr canol) Llyfrgell Hugh Owen:

G155 Twristiaeth
GB Daearyddiaeth Ffisegol
HC / TD Rheolaeth amgylcheddol
HD / HT Rheolaeth cefn gwlad
HM Cymdeithaseg ac economeg
Q Gwyddoniaeth (cyffredinol)
QC Daeareg a hinsawdd
QD Cemeg
QH Hanes y byd naturiol a bioleg
QK Llysieueg
QL Swoleg
QP Ffisioleg (gan gynnwys biocemeg)
QR Microbioleg
S, SB Amaethyddiaeth a chnydau
S673-S675 Peirianneg Amaethyddol
S900-S972 Rheolaeth cefn gwlad
SF Gwyddor anifeiliaid
SF277-SF359 Ceffylau

Adnoddau electronig

Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd. Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell.

Ewch i http://primo.aber.ac.uk/ a Mewngofnodwch, yna cliciwch ar Gronfeydd Data A-Z a dewiswch Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig o'r rhestr Categori i ddod o hyd i e-adnoddau pwysig megis BIOSIS, CAB Abstracts, Land Life Leisure a ScienceDirect. Cewch wybodaeth ar bob adnodd drwy glicio ar y botwm Dangos Gwybodaeth sydd wrth ymyl, sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol am fynediad ar y campws ac oddi ar y campws.

Ceir crynodeb ar sut I bori a chwilio Primo yma: http://www.aber.ac.uk/en/is/infoskills/primo/

Sgiliau gwybodaeth

Gweler ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth ar:

  • dod o hyd i ddeunyddiau printiedig yn y llyfrgell
  • dod o hyd a gwerthuso gwybodaeth electronig
  • aros yn gyfredol yn eich pwnc astudio
  • astudio effeithiol a chyfeirnodi llyfryddiaethol
  • cyflwyniad i'r llyfrgell a hyfforddiant sgiliau

Ceir hefyd diwtorialau defnyddiol ar-lein ar gyfer eich pwnc sy'n cynnwys prif sgiliau gwybodaeth ar-lein - rhowch dro ar y tiwtorialau ar gyfer Amaethyddiaeth, a Bioamrywiaeth.

Casgliadau

Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma.

Gwasanaethau i staff academaidd

Gall eich llyfrgellydd pwnc ddarparu hyfforddiant sgiliau i staff a myfyrwyr, gwerthusiad adnoddau a llawer mwy. Am fanylion llawn ewch i'r dudalen hon.

Eich llyfrgellydd pwnc cefnogol yw:

Steve Smith Steve Smith
(01970) 823051
tns@aber.ac.uk