Adnoddau Cyfrifiadureg

Deunyddiau printiedig

Lleolir y prif gasgliad o ddeunyddiau printiedig e.e. llyfrau, cyfnodolion, cyfeirlyfrau a chyfeirlyfrau cyflym ar gyfer Cyfrifiadureg yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.

Prif adrannau:

Q Gwyddoniaeth (Cyffredinol)
Q 335-336 Deallusrwydd Artiffisial
QA 75 Cyfrifiadureg
QA 76.6 Rhaglennu
QA 76.73 Ieithoedd unigol e.e. QA76.73.J38 Java
QA 76.76 Pynciau arbennig e.e. QA76.76.O63 Systemau gweithredu
T Technolegoleg
TK eirianneg drydanol
TK 5105 Cyfathrebiadau a rhwydweithiau

Adnoddau electronig

Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Cyfrifiadureg drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd. Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell.

Ewch i http://primo.aber.ac.uk/ a Mewngofnodwch, yna cliciwch ar Gronfeydd Data A-Z a dewiswch Cyfrifiadureg o'r rhestr Categori i ddod o hyd i e-adnoddau pwysig megis Computing Reviews, ACM Digital Library, a Web of Science. Cewch wybodaeth ar bob adnodd drwy glicio ar y botwm Dangos Gwybodaeth sydd wrth ymyl, sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol am fynediad ar y campws ac oddi ar y campws.

Ceir crynodeb ar sut I bori a chwilio Primo yma:  http://www.aber.ac.uk/en/is/infoskills/primo/

Sgiliau gwybodaeth

Gweler ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth ar:

  • dod o hyd i ddeunyddiau printiedig yn y llyfrgell
  • dod o hyd a gwerthuso gwybodaeth electronig
  • aros yn gyfredol yn eich pwnc astudio
  • astudio effeithiol a chyfeirnodi llyfryddiaethol
  • cyflwyniad i'r llyfrgell a hyfforddiant sgiliau

Ceir hefyd diwtorialau defnyddiol ar-lein ar gyfer eich pwnc sy'n cynnwys prif sgiliau gwybodaeth ar-lein - rhowch dro ar y tiwtorial ar gyfer Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Casgliadau

Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma.

Gwasanaethau i staff academaidd

Gall eich llyfrgellydd pwnc ddarparu hyfforddiant sgiliau i staff a myfyrwyr, gwerthusiad adnoddau a llawer mwy. Am fanylion llawn ewch i'r dudalen hon.

Eich llyfrgellydd pwnc cefnogol yw:

Sahm Nikoi Sahm Nikoi
01970 (62) 2080
skn@aber.ac.uk