Adnoddau Addysg a Dysgu Gydol Oes
Deunyddiau printiedig
Y prif adrannau:
LA Hanes addysg
LB1028-1049 Ymchwil addysgol
LB1050 Anawsterau darllen ac ysgrifennu
LB1051 Seicoleg addysgol
LB1140 Addysg y blynyddoedd cynnar
LB1501 Addysg gynradd
LB1523 Y Cwricwlwm Cenedlaethol
LB1564-1570 Datblygiad y cwricwlwm yn gyffredinol
LB1705-2286 Addysgu a hyfforddi athrawon
LB2800 Rheoli ysgolion
LB3013 Rheolaeth a disgyblaeth yn yr ystafell ddosbarth
LB3051-3060 Asesu
LC2042 Addysg menywod
LC3701-3747 Addysg ddwyieithog ac aml-ddiwylliannol
LC3965-4803 Anghenion addysgol arbennig
Adnoddau electronig
Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Addysg a Dysgu Gydol Oes drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd. Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell.
Ewch i http://primo.aber.ac.uk/ a Mewngofnodwch, yna cliciwch ar Gronfeydd Data A-Z a dewiswch Addysg a Dysgu Gydol Oes o'r rhestr Categori i ddod o hyd i e-adnoddau pwysig megis British Education Index, EducatiON-line, a'r Times Higher Education Supplement. Cewch wybodaeth ar bob adnodd drwy glicio ar y botwm Dangos Gwybodaeth sydd wrth ymyl, sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol am fynediad ar y campws ac oddi ar y campws.
Ceir crynodeb ar sut I bori a chwilio Primo yma: http://www.aber.ac.uk/en/is/infoskills/primo/
Sgiliau gwybodaeth
Gweler ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth ar:
- dod o hyd i ddeunyddiau printiedig yn y llyfrgell
- dod o hyd a gwerthuso gwybodaeth electronig
- aros yn gyfredol yn eich pwnc astudio
- astudio effeithiol a chyfeirnodi llyfryddiaethol
- cyflwyniad i'r llyfrgell a hyfforddiant sgiliau
Ceir hefyd diwtorialau defnyddiol ar-lein ar gyfer eich pwnc sy'n cynnwys prif sgiliau gwybodaeth ar-lein - rhowch dro ar y tiwtorial ar gyfer Addysg
Gwasanaethau i staff academaidd
Gall eich llyfrgellwyr pwnc ddarparu hyfforddiant sgiliau i staff a myfyrwyr, gwerthusiad adnoddau a llawer mwy. Am fanylion llawn ewch i'r dudalen hon.
Gwasanaethau i fyfyrwyr dysgu o bell
Mae gan fyfyrwyr dysgu o bell fynediad i'r un gwasanaethau a'r myfyrwyr sydd ar gampws (e.e. e-adnoddau, deunyddiau printiedig, cymorth a chefnogaeth) ond gall y modd y maent yn cael mynediad wahaniaethu. Os ydych yn fyfyriwr dysgu o bell byddwch yn gyfarwydd a'r wybodaeth sydd yma.
