Adnoddau Canllaw Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Deunyddiau printiedig
Lleolir y prif gasgliad o ddeunyddiau printiedig e.e. llyfrau, cyfnodolion, cyfeirlyfrau a chyfeirlyfrau cyflym ar gyfer Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lawr F (llawr uchaf).
P Ieitheg/Ieithyddiaeth/Iaith yn gyffredinol
PE Yr Iaith Saesneg/Hanes Saesneg
PN Llenyddiaeth yn gyffredinol gan gynnwys Theori Feirniadol a Ffurfiau Llenyddol (e.e. Barddoniaeth), hefyd Ysgrifennu Creadigol
PR Llenyddiaeth Saesneg
PS Llenyddiaeth Americanaidd
Z Llyfryddiaeth: gan gynnwys Llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd/Drama/ Ffuglen
Cyfnodolion wedi’u hargraffu
Adnoddau electronig
Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd. Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell.
Ewch i http://primo.aber.ac.uk/ a Mewngofnodwch, yna cliciwch ar Gronfeydd Data A-Z a dewiswch Saesneg o'r rhestr Categori i ddod o hyd i e-adnoddau pwysig megis Literature Online (LION), Annual Bibliography of English Language and Literature, ac Early English Books Online. Cewch wybodaeth ar bob adnodd drwy glicio ar y botwm Dangos Gwybodaeth sydd wrth ymyl, sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol am fynediad ar y campws ac oddi ar y campws.
Ceir crynodeb ar sut I bori a chwilio Primo yma: http://www.aber.ac.uk/en/is/infoskills/primo/
Sgiliau gwybodaeth
Gweler ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth ar:
- dod o hyd i ddeunyddiau printiedig yn y llyfrgell
- dod o hyd a gwerthuso gwybodaeth electronig
- aros yn gyfredol yn eich pwnc astudio
- astudio effeithiol a chyfeirnodi llyfryddiaethol
- cyflwyniad i'r llyfrgell a hyfforddiant sgiliau
Ceir hefyd diwtorialau defnyddiol ar-lein ar gyfer eich pwnc sy'n cynnwys prif sgiliau gwybodaeth ar-lein - rhowch dro ar y tiwtorial ar gyfer Saesneg.
Casgliadau
Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma.
Gall yr hyn sy'n dilyn fod o wybodaeth benodol i fyfyrwyr Saesneg:
Gwasanaethau i staff academaidd
Gall eich llyfrgellydd pwnc ddarparu hyfforddiant sgiliau i staff a myfyrwyr, gwerthusiad adnoddau a llawer mwy. Am fanylion llawn ewch i'r dudalen hon.
Eich llyfrgellydd pwnc cefnogol yw:
Manylion Cyswllt
Tîm Gwasanaethau AcademaiddGwasanaethau Gwybodaeth
Llyfrgell Hugh Owen
Penglais
Aberystwyth
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3DZ
Rhestr o’r Llyfrgellwyr Gwasanaethau Academaidd
