Adnoddau Astudiaethau Gwybodaeth

Deunyddiau printiedig

Lleolir y prif gasgliad o ddeunydd printiedig e.e. llyfrau, cyfnodolion, cyfeirlyfrau a chyfeirlyfrau cyflym ar gyfer Astudiaethau Gwybodaeth yn Llyfrgell Thomas Parry (LlTP). Lleolir peth deunydd sy'n gysylltiedig a modiwlau a ddysgir yn Astudiaethau Gwybodaeth e.e. archifau; palaeograffeg, marchnata a rheolaeth busnes yn Llyfrgell Hugh Owen  (LlHO) ar Gampws Penglais. Mae Llyfrgell Hugh Owen yn defnyddio'r Cynllun Dosbarthu Llyfrgell y Gyngres - marc dosbarth sy'n dechrau gyda llythrennau (e.e. HD62.4L4).

Prif adrannau yn LlTP:

Adalw Gwybodaeth Z699 – Z699.5
Argraffu Z116.A5 – Z265.5
Catalogio Z693 – Z695.83
Cyfraith Eiddo Deallusol K1401 - K1578
Cyhoeddi Z278 – Z549
Datblygu casgliad Z687 – Z718.85
Ffynonellau Gwybodaeth Busnes HF54.5
Gweinyddu archifau CD950
Gweithrediadau Llyfrgell Z687-Z718.85
Gwyddorau Llyfrgell a Gwybodaeth Z665 – Z718.8
Hanes y Llyfr/gwneud llyfrau Z4 – Z5
Hawlfraint Z551 – Z656
Llawysgrifau a llyfrau prin Z105 – Z115.5
Llyfryddiaeth Z1001 - Z1121
Rheoli Cofnodion HF5736.H2
Rheoli Cyffredinol HD31
Rheoli Gwybodaeth HD30.2
Sensoriaeth Z657 – Z659
Sgiliau Cyflwyno HF5438.8.P74
Ysgrifennu Adroddiadau HF5719

Adnoddau electronig

Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Astudiaethau Gwybodaeth drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd. Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell.

Ewch i http://primo.aber.ac.uk/ a Mewngofnodwch, yna cliciwch ar Gronfeydd Data A-Z a dewiswch Astudiaethau Gwybodaeth o'r rhestr Categori i ddod o hyd i e-adnoddau pwysig megis Library, Information Science & Technology Abstracts; LISA (Library and Information Science Abstracts); a Web of Science. Cewch wybodaeth ar bob adnodd drwy glicio ar y botwm Dangos Gwybodaeth sydd wrth ymyl, sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol am fynediad ar y campws ac oddi ar y campws.

Ceir crynodeb ar sut I bori a chwilio Primo yma: http://www.aber.ac.uk/en/is/infoskills/primo/

Gweler ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth ar:

  • dod o hyd i ddeunyddiau printiedig yn y llyfrgell
  • dod o hyd a gwerthuso gwybodaeth electronig
  • aros yn gyfredol yn eich pwnc astudio
  • astudio effeithiol a chyfeirnodi llyfryddiaethol
  • cyflwyniad i'r llyfrgell a hyfforddiant sgiliau

Ceir hefyd diwtorialau defnyddiol ar-lein ar gyfer eich pwnc sy'n cynnwys prif sgiliau gwybodaeth ar-lein - rhowch dro ar y tiwtorial ar gyfer Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.

Casgliadau

Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma.

  • Gall yr Horton Collection fod o ddiddordeb penodol i fyfyrwyr Astudiaethau Gwybodaeth.
  • Mae gan Aberystwyth Gasgliad o Draethodau Ymchwil a allai fod yn ddefnyddiol pan fyddwch chi'n dod i ysgrifennu eich traethawd ymchwil eich hun. Maent i gyd ar Primo, a gallwch weld rhestr o draethodau ymchwil yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth yma. Yna defnyddiwch y blwch 'Trefnu yn ol' i drefnu'r canlyniadau yn awdur, teitl neu ddyddiad cyhoeddi. Os hoffech chwilio am draethawd ymchwil ar bwnc penodol, yna ar Primo chwiliwch am:
    disthes pwnc
    ac yn lle 'pwnc' rhowch allweddair y mae gennych ddiddordeb ynddo, e.e.
    disthes marchnata
    neu hyd yn oed
    disthes marchnad?
    i ddod o hyd i farchnadwyr, marchnadoedd ac ati.
    Noder nad yw chwiliad o'r fath ond yn dod o hyd i draethodau ymchwil a gyflwynwyd i'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth; efallai y bydd traethodau ymchwil perthnasol eraill gan adrannau megis rheolaeth a busnes, neu gyfrifiadureg, felly mae'r chwiliad hwn yn fan cychwyn yn unig a bydd datblygu eich sgiliau chwilio ar Primo yn eich helpu i ddod o hyd i fwy o ddeunydd. 

Gwasanaethau i staff academaidd

Gall eich llyfrgellydd pwnc ddarparu hyfforddiant sgiliau i staff a myfyrwyr, gwerthusiad adnoddau a llawer mwy. Am fanylion llawn ewch i'r dudalen hon.

Gwasanaethau i fyfyrwyr dysgu o bell

Mae gan fyfyrwyr dysgu o bell fynediad i'r un gwasanaethau a'r myfyrwyr sydd ar gampws (e.e. e-adnoddau, deunyddiau printiedig, cymorth a chefnogaeth) ond gall y modd y maent yn cael mynediad wahaniaethu. Os ydych yn fyfyriwr dysgu o bell byddwch yn gyfarwydd a'r wybodaeth sydd yma.

Eich llyfrgellydd pwnc cefnogol yw:

Anita Saycell Anita Saycell
Cwrdd â'ch llyfrgellydd
(01970 62) 1867

aiv@aber.ac.uk