Adnoddau Cyfraith a Throseddeg

Deunyddiau printiedig

Mae’r prif gasgliad (llyfrau, adroddiadau’r gyfraith a chyfnodolion) i’w weld yn Llyfrgell Hugh Owen – Llyfrgell y Gyfraith a Llawr F (llawr uchaf (troseddeg)):  

KD Cyfraith y Deyrnas Unedig ac Iwerddon
KJ Cyfraith Ewrop (gan gynnwys Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd)
KW Canolfan Dogfennau Ewropeaidd
KX a KZ Cyfraith Ryngwladol (gweler hefyd JX a JZ)

Lleolir adroddiadau’r gyfraith* ar y silffoedd yn y canol. Mae’r deddfau* ar y silffoedd ar y dde. Cedwir cyfnodolion* ar y silffoedd yn y canol. [* Hefyd ar gael ar ffurf electronig]

Llyfrau troseddeg (Lefel F (llawr uchaf)):

HV 6001-9960 Troseddeg (benthyciad 3 diwrnod a safonol)

Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Cyfraith a Throseddeg drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd. Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell.

Ewch i http://primo.aber.ac.uk/ a Mewngofnodwch, yna cliciwch ar Gronfeydd Data A-Z a dewiswch Cyfraith a Throseddeg o'r rhestr Categori i ddod o hyd i e-adnoddau pwysig megis Westlaw UK, LexisNexis Butterworths Legal, a HeinOnline. Cewch wybodaeth ar bob adnodd drwy glicio ar y botwm Dangos Gwybodaeth sydd wrth ymyl, sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol am fynediad ar y campws ac oddi ar y campws.

Ceir crynodeb ar sut I bori a chwilio Primo yma: http://www.aber.ac.uk/en/is/infoskills/primo/

Sgiliau gwybodaeth

Gweler ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth ar:

  • dod o hyd i ddeunyddiau printiedig yn y llyfrgell
  • dod o hyd a gwerthuso gwybodaeth electronig
  • aros yn gyfredol yn eich pwnc astudio
  • astudio effeithiol a chyfeirnodi llyfryddiaethol
  • cyflwyniad i'r llyfrgell a hyfforddiant sgiliau

Ceir hefyd diwtorialau defnyddiol ar-lein ar gyfer eich pwnc sy'n cynnwys prif sgiliau gwybodaeth ar-lein - rhowch dro ar y tiwtorial ar gyfer Cyfreithwyr.

Casgliadau

Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma.

Gall yr hyn sy'n dilyn fod o wybodaeth benodol i fyfyrwyr Cyfraith a Throseddeg:

Gwasanaethau i staff academaidd

Gall eich llyfrgellydd pwnc ddarparu hyfforddiant sgiliau i staff a myfyrwyr, gwerthusiad adnoddau a llawer mwy. Am fanylion llawn ewch i'r dudalen hon.

Gwasanaethau i fyfyrwyr dysgu o bell

Mae gan fyfyrwyr dysgu o bell fynediad i'r un gwasanaethau a'r myfyrwyr sydd ar gampws (e.e. e-adnoddau, deunyddiau printiedig, cymorth a chefnogaeth) ond gall y modd y maent yn cael mynediad wahaniaethu. Os ydych yn fyfyriwr dysgu o bell byddwch yn gyfarwydd  a'r wybodaeth sydd yma.

Eich llyfrgellydd pwnc cefnogol yw:

Lillian Stevenson Lillian Stevenson
Cwrdd â'ch llyfrgellydd
(01970 62) 1514

lis@aber.ac.uk