Adnoddau Rheolaeth a Busnes
Deunyddiau printiedig
Lleolir y prif gasgliad o ddeunyddiau printiedig e.e. llyfrau, cyfnodolion, cyfeirlyfrau a chyfeirlyfrau cyflym ar gyfer Rheolaeth a Busnes yn Llyfrgell Hugh Owen.
Prif adrannau ar Lefel F (llawr uchaf):
Rhifyn mwyaf diweddar o bob cylchgrawn printiedig.
H Gwyddorau Cymdeithasol
HB Theori Economaidd
HC Hanes ac amgylchiadau economaidd - yn ol gwlad
HD Amaethyddiaeth ac Economeg
HF Marchnata a Chyfrifeg
Prif adrannau ar Lefel E, Llyfrgell y Gyfraith (llawr canol):
K Cyfraith - cyffredinol
KD 1629 Cyfraith Busnes
KD 2079 Cyfraith Cwmniau
Adnoddau electronig
Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Rheolaeth a Busnes drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd. Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell.
Ewch i http://primo.aber.ac.uk/ a Mewngofnodwch, yna cliciwch ar Gronfeydd Data A-Z a dewiswch Rheolaeth a Busnes o'r rhestr Categori i ddod o hyd i e-adnoddau pwysig megis EBSCO Business Source Complete, Emerald Journals, a Nexis. Cewch wybodaeth ar bob adnodd drwy glicio ar y botwm Dangos Gwybodaeth sydd wrth ymyl, sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol am fynediad ar y campws ac oddi ar y campws.
Ceir crynodeb ar sut I bori a chwilio Primo yma: http://www.aber.ac.uk/en/is/infoskills/primo/
Sgiliau gwybodaeth
Gweler ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth ar:
- dod o hyd i ddeunyddiau printiedig yn y llyfrgell
- dod o hyd a gwerthuso gwybodaeth electronig
- aros yn gyfredol yn eich pwnc astudio
- astudio effeithiol a chyfeirnodi llyfryddiaethol
- cyflwyniad i'r llyfrgell a hyfforddiant sgiliau
Ceir hefyd diwtorialau defnyddiol ar-lein ar gyfer eich pwnc sy'n cynnwys prif sgiliau gwybodaeth ar-lein - rhowch dro ar y tiwtorial ar gyfer Rheolwyr Busnes.
Casgliadau
Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma.
Gall yr hyn sy'n dilyn fod o wybodaeth benodol i fyfyrwyr Rheolaeth a Busnes:
Gwasanaethau i staff academaidd
Gall eich llyfrgellydd pwnc ddarparu hyfforddiant sgiliau i staff a myfyrwyr, gwerthusiad adnoddau a llawer mwy. Am fanylion llawn ewch i'r dudalen hon.
