Adnoddau Mathemateg a Ffiseg
Deunyddiau printiedig
Lleolir y prif gasgliad o ddeunyddiau printiedig e.e. llyfrau, cyfnodolion, cyfeirlyfrau a chyfeirlyfrau cyflym ar gyfer Mathemateg a Ffiseg yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Prif adrannau:
Q Gwyddoniaeth (Cyffredinol)
QA Mathemateg
QA150 Algebra
QA 276 Ystadegaeth
QA 303 Calcwlws
QA 440 Geometreg
QA 801 Mecaneg ddadansoddol
QA 843 Dynameg
QA 901 Mecaneg hylifol
QB Astronomeg
QC Ffiseg
QC189.5 Rheolegoleg
QC 221-246 Acwsteg
QC 350-467 Opteg
QC 501-766 Trydan a magneteg
QC 770-798 Ffiseg niwclear a gronynnau
QC 851-999 Meteoroleg/Hinsoddeg
T Technoleg
TA Peirianneg gyffredinol
TJ Peirianneg fecanyddol
TK Peirianneg drydanol
Adnoddau electronig
Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Mathemateg a Ffiseg drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd. Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell.
Ewch i http://primo.aber.ac.uk/ a Mewngofnodwch, yna cliciwch ar Gronfeydd Data A-Z a dewiswch Mathemateg a Ffiseg o'r rhestr Categori i ddod o hyd i e-adnoddau pwysig megis MathSciNet, Royal Society of Chemistry, ac Institute of Physics Journals. Cewch wybodaeth ar bob adnodd drwy glicio ar y botwm Dangos Gwybodaeth sydd wrth ymyl, sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol am fynediad ar y campws ac oddi ar y campws.
Ceir crynodeb ar sut I bori a chwilio Primo yma: http://www.aber.ac.uk/en/is/infoskills/primo/
Sgiliau gwybodaeth
Gweler ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth ar:
- dod o hyd i ddeunyddiau printiedig yn y llyfrgell
- dod o hyd a gwerthuso gwybodaeth electronig
- aros yn gyfredol yn eich pwnc astudio
- astudio effeithiol a chyfeirnodi llyfryddiaethol
- cyflwyniad i'r llyfrgell a hyfforddiant sgiliau
Ceir hefyd diwtorialau defnyddiol ar-lein ar gyfer eich pwnc sy'n cynnwys prif sgiliau gwybodaeth ar-lein - rhowch dro ar y tiwtorialau ar gyfer Mathemateg, Ffiseg, a Pheirianneg Fecanyddol.
Casgliadau
Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma.
Gall yr hyn sy'n dilyn fod o wybodaeth benodol i fyfyrwyr Mathemateg a Ffiseg:
Gwasanaethau i staff academaidd
Gall eich llyfrgellydd pwnc ddarparu hyfforddiant sgiliau i staff a myfyrwyr, gwerthusiad adnoddau a llawer mwy. Am fanylion llawn ewch i'r dudalen hon.

