Adnoddau Seicoleg
Deunyddiau printiedig
Lleolir y prif gasgliad o ddeunyddiau printiedig e.e. llyfrau, cyfnodolion, cyfeirlyfrau a chyfeirlyfrau cyflym ar gyfer Seicoleg yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel F (llawr uchaf). Prif adrannau:
BF1-990 Seicoleg
BF38-64 Athroniaeth. Perthynas a phynciau eraill
BF173-175.5 Dadansoddiad seicolegol
BF176-176.5 Profion seicolegol
BF180-198.7 Seicoleg arbrofol
BF231-299 Ymdeimlad. Hydeimlad
BF309-499 Ymwybyddiaeth. Dirnadaeth
BF501-505 Cymhelliaeth
BF511-593 Teimladau. Emosiwn
BF608-635 Ewyllys. Penderfyniad.Dewis. Rheolaeth
BF636-637 Seicoleg gymhwysol
BF660-685 Seicoleg gymharol. Seicoleg anifeiliaid a dynol
BF697-697.5 Seicoleg wahaniaethol. Unigolyddiaeth. Hunan
BF698-698.9 Personoliaeth
BF699-711 Seicoleg genynnol
BF712-724.85 Seicoleg ddatblygiadol
BF795-839 Anian. Cymeriad
BF839.8-885 Ffisiognomi. Ffrenoleg
BF1001-1045 Ymchwil seicig Seicoleg yr ymwybod
BF1048-1108 Rhithweledigaethau. Cwsg. Breuddwydio. Gweledigaethau
BF1111-1156 Hypnotiaeth. Awgrymiad. Mesmeriaeth. Tafluniad isganfyddol
Adnoddau electronig
Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Seicoleg drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd. Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell.
Ewch i http://primo.aber.ac.uk/ a Mewngofnodwch, yna cliciwch ar Gronfeydd Data A-Z a dewiswch Seicoleg o'r rhestr Categori i ddod o hyd i e-adnoddau pwysig megis PsycARTICLES, ScienceDirect, a Web of Science. Cewch wybodaeth ar bob adnodd drwy glicio ar y botwm Dangos Gwybodaeth sydd wrth ymyl, sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol am fynediad ar y campws ac oddi ar y campws.
Ceir crynodeb ar sut I bori a chwilio Primo yma: http://www.aber.ac.uk/en/is/infoskills/primo/
Sgiliau gwybodaeth
Gweler ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth ar:
- dod o hyd i ddeunyddiau printiedig yn y llyfrgell
- dod o hyd a gwerthuso gwybodaeth electronig
- aros yn gyfredol yn eich pwnc astudio
- astudio effeithiol a chyfeirnodi llyfryddiaethol
- cyflwyniad i'r llyfrgell a hyfforddiant sgiliau
Ceir hefyd diwtorialau defnyddiol ar-lein ar gyfer eich pwnc sy'n cynnwys prif sgiliau gwybodaeth ar-lein - rhowch dro ar y tiwtorial ar gyfer Seicoleg
Casgliadau
Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma. Gall yr hyn sy'n dilyn fod o wybodaeth benodol i fyfyrwyr Seicoleg:
Gwasanaethau i staff academaidd
Gall eich llyfrgellwyr pwnc ddarparu hyfforddiant sgiliau i staff a myfyrwyr, gwerthusiad adnoddau a llawer mwy. Am fanylion llawn ewch i'r dudalen hon.
