Adnoddau Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Deunyddiau printiedig

Lleolir y prif gasgliad o ddeunyddiau printiedig e.e. llyfrau, cyfnodolion, cyfeirlyfrau a chyfeirlyfrau cyflym ar gyfer Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Llyfrgell Hugh Owen

Prif adrannau ar Lefel F (llawr uchaf):
GV200-GV499 Addysg Gorfforol
GV 605-706.5 Chwaraeon - Hanes
GV 706.4 Seicoleg chwaraeon
Prif adrannau ar Lefel E:
QM Corff dynol
QP 34 Ffisioleg ddynol
QP 301 Ffisioleg ymarfer corff~
QP 303 Mecaneg ddynol/cinesioleg
RC 1200-1245 Meddygaeth chwaraeon
RD 701-811 Llawfeddygaeth orthopedig
RD 792-811 Adferiad corfforol
RM 695-890 Therapi corfforol
RM 930-931 Therapi adferiad

Prif adrannau Llyfrgell y Gyfraith ar Lefel E (llawr canol):
KD 3525 Cyfraith chwaraeon

Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd.  Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell.

Ewch i http://primo.aber.ac.uk/ a Mewngofnodwch, yna cliciwch ar Gronfeydd Data A-Z a dewiswch Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff o'r rhestr Categori i ddod o hyd i e-adnoddau pwysig megis OCLC First Search, ScienceDirect, a Web of Knowledge.  Cewch wybodaeth ar bob adnodd drwy glicio ar y botwm Dangos Gwybodaeth sydd wrth ymyl, sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol am fynediad ar y campws ac oddi ar y campws.

Ceir crynodeb ar sut I bori a chwilio Primo yma:  http://www.aber.ac.uk/en/is/infoskills/primo/

Gweler ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth ar:

  • dod o hyd i ddeunyddiau printiedig yn y llyfrgell
  • dod o hyd a gwerthuso gwybodaeth electronig
  • aros yn gyfredol yn eich pwnc astudio
  • astudio effeithiol a chyfeirnodi llyfryddiaethol
  • cyflwyniad i'r llyfrgell a hyfforddiant sgiliau

Ceir hefyd diwtorialau defnyddiol ar-lein ar gyfer eich pwnc sy'n cynnwys prif sgiliau gwybodaeth ar-lein - rhowch dro ar y tiwtorial ar gyfer Hamdden, Chwaraeon ac Adloniant

Casgliadau

Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma

Gwasanaethau i staff academaidd

Gall eich llyfrgellydd pwnc ddarparu hyfforddiant sgiliau i staff a myfyrwyr, gwerthusiad adnoddau a llawer mwy. Am fanylion llawn ewch i'r dudalen hon.

Eich llyfrgellydd pwnc cefnogol yw:

Steve Smith Steve Smith
(01970) 823051
tns@aber.ac.uk