Adnoddau Theatr, Ffilm a Theledu
Deunyddiau printiedig
Lleolir y prif gasgliad o ddeunyddiau printiedig e.e. llyfrau, cyfnodolion, cyfeirlyfrau a chyfeirlyfrau cyflym ar gyfer Theatr, Ffilm a Theledu yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel F (llawr uchaf):
PN Llenyddiaeth Gyffredinol
PN1560-PN1590 Y Celfyddydau Perfformiadol
PN1600-PN3307 Drama
PN1990-PN1992.92 Darlledu
PN1993-PN1999 Astudiaethau Ffilm
PN2000-PN3307 Y Theatr
PR Llenyddiaeth Saesneg
PS Llenyddiaeth Americanaidd
Z Llyfryddiaeth printiedig
Cyfnodolion wedi’u hargraffu
Y mae hefyd adran dechnegol ar gyfryngau newydd yn TK ar Lefel E (llawr canol).
Adnoddau electronig
Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Theatr, Ffilm a Theledu drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd. Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell.
Ewch i http://primo.aber.ac.uk/ a Mewngofnodwch, yna cliciwch ar Gronfeydd Data A-Z a dewiswch Theatr, Ffilm a Theledu o'r rhestr Categori i ddod o hyd i e-adnoddau pwysig megis BBC Listener Research Department, the Schirmer Encyclopaedia of Film, a'r World Shakespeare Bibliography Online. Cewch wybodaeth ar bob adnodd drwy glicio ar y botwm Dangos Gwybodaeth sydd wrth ymyl, sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol am fynediad ar y campws ac oddi ar y campws.
Ceir crynodeb ar sut I bori a chwilio Primo yma: http://www.aber.ac.uk/en/is/infoskills/primo/
Sgiliau gwybodaeth
Gweler ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth ar:
- dod o hyd i ddeunyddiau printiedig yn y llyfrgell
- dod o hyd a gwerthuso gwybodaeth electronig
- aros yn gyfredol yn eich pwnc astudio
- astudio effeithiol a chyfeirnodi llyfryddiaethol
- cyflwyniad i'r llyfrgell a hyfforddiant sgiliau
Ceir hefyd diwtorialau defnyddiol ar-lein ar gyfer eich pwnc sy'n cynnwys prif sgiliau gwybodaeth ar-lein - rhowch dro ar y tiwtorialau ar gyfer Cyfryngau a Chyfathrebu, a Chelfyddydau Perfformio.
Casgliadau
Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma.
Gwasanaethau i staff academaidd
Gall eich llyfrgellydd pwnc ddarparu hyfforddiant sgiliau i staff a myfyrwyr, gwerthusiad adnoddau a llawer mwy. Am fanylion llawn ewch i'r dudalen hon.
