Adnoddau Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Deunyddiau printiedig
Lleolir y prif gasgliad o ddeunydd printiedig ar gyfer y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel F (llawr uchaf).
Prif adrannau yn y Casgliad Celtaidd (rhagddodir gyda CELT):
CB206 Hil a Diwylliant Celtaidd
DA700–745 Hanes Cymru
E184.W4 Cymry yn Unol Daleithiau America
F2936 Cymry yn Y Wladfa
G Daearyddiaeth / Anthropoleg
H Gwyddorau Cymdeithasol
J Gwyddorau Gwleidyddol
K Cyfraith / L Addysg
M Cerddoriaeth
N Celfyddydau Cain
PA Astudiaethau Clasurol
PB Ieithoedd Celtaidd a'u Llenyddiaeth
Z Bibliography
Llenyddiaeth
Z Bibliography
Adnoddau electronig
Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd. Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell.
Ewch i http://primo.aber.ac.uk/ a Mewngofnodwch, yna cliciwch ar Gronfeydd Data A-Z a dewiswch Cymraeg o'r rhestr Categori i ddod o hyd i e-adnoddau pwysig megis OCLC First Search, Welsh Biography Online, a MLA International Bibliography. Cewch wybodaeth ar bob adnodd drwy glicio ar y botwm Dangos Gwybodaeth sydd wrth ymyl, sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol am fynediad ar y campws ac oddi ar y campws.
Ceir crynodeb ar sut I bori a chwilio Primo yma: http://www.aber.ac.uk/en/is/infoskills/primo/
Sgiliau gwybodaeth
Gweler ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth ar:
- dod o hyd i ddeunyddiau printiedig yn y llyfrgell
- dod o hyd a gwerthuso gwybodaeth electronig
- aros yn gyfredol yn eich pwnc astudio
- astudio effeithiol a chyfeirnodi llyfryddiaethol
- cyflwyniad i'r llyfrgell a hyfforddiant sgiliau
Ceir hefyd diwtorialau defnyddiol ar-lein ar gyfer eich pwnc sy'n cynnwys prif sgiliau gwybodaeth ar-lein - rhowch dro ar y tiwtorial ar gyfer Ieithoedd Modern.
Casgliadau
Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma.
Gall yr hyn sy'n dilyn fod o wybodaeth benodol i fyfyrwyr Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd:
- Thomas and Mair Jones collection
- Private Press books
- Rare Books y mae’n cynnwys nifer o Feiblau Cymraeg prin megis Y Bibl Cyssegr-lan BS308 ac eitemau prin eraill, er enghraifft Llyfr y Resolusion - Dr I.D. Davies BV4500.P2
- Language Learning Materials: Y mae gan y Llyfrgell nifer o gyrsiau i roi cymorth i unigolion ddysgu rhai o’r ieithoedd Celtaidd.
Gwasanaethau i staff academaidd
Gall eich llyfrgellydd pwnc ddarparu hyfforddiant sgiliau i staff a myfyrwyr, gwerthusiad adnoddau a llawer mwy. Am fanylion llawn ewch i'r dudalen hon.
Gwasanaethau i fyfyrwyr dysgu o bell
Mae gan fyfyrwyr dysgu o bell fynediad i'r un gwasanaethau a'r myfyrwyr sydd ar gampws (e.e. e-adnoddau, deunyddiau printiedig, cymorth a chefnogaeth) ond gall y modd y maent yn cael mynediad wahaniaethu. Os ydych yn fyfyriwr dysgu o bell byddwch yn gyfarwydd a'r wybodaeth sydd yma.
