Y Llyfrgell ac Adnoddau Cyfrifiadurol

llyfrgellFel y disgwylir gan Adran sydd â hanes hir, mae gennym Lyfrgell y Gyfraith aeddfed a hirsefydlog. Mae’r llyfrgell yn darparu amrywiaeth sylweddol ac amrywiol o lyfrau, cyfnodolion ac adroddiadau cyfreithiol yn ogystal â’r adnoddau cyfreithiol ar-lein diweddaraf. Mae’n cynnwys cyfanswm o oddeutu 42,000 o gyfrolau, gyda chasgliadau mawr o ddeunyddiau Prydeinig ac Ewropeaidd a daliadau sylweddol ym maes cyfraith ryngwladol. Mae hefyd yn gartref i’r Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd, sef casgliad o ffynonellau gwreiddiol a ddosberthir gan brif sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r adnoddau yn Llyfrgell y Gyfraith yn cynnwys Desg Ymholiadau, lle i 120 o bobl eistedd, ystafell seminar, carelau y gellir eu llogi, man astudio tawel, cyfrifiaduron ac adnoddau diwifr trwy’r adeilad.


Lleolir Llyfrgell y Gyfraith mewn adain o Lyfrgell Hugh Owen, ger Adran y Gyfraith a Throseddeg. Oddi yma fe geir golygfeydd gwych dros dref Aberystwyth a Bae Ceredigion. Llyfrgell Hugh Owen yw prif lyfrgell y Brifysgol ac ynddi fe ddewch o hyd i brif gasgliadau’r Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, adnoddau cyfrifiadurol helaeth a Desgiau Cymorth ar gyfer y Llyfrgell a Chyfrifiaduron.


Mae’r Llyfrgell yn tanysgrifio i amrywiaeth gynyddol o adnoddau gwybodaeth electronig o ansawdd uchel, ac maent i gyd ar gael i staff a myfyrwyr cofrestredig y Brifysgol. Maent yn cynnwys mynediad uniongyrchol at fwy na 9,000 o gyfnodolion electronig awdurdodol o awdurdodaethau ledled y byd; y cronfeydd data cyfreithiol arbenigol, Lexis a Westlaw, sy’n cael eu defnyddio’n fasnachol yn y proffesiynau cyfreithiol trwy’r byd a Heinonline (archif ar-lein o gyfnodolion cyfreithiol, adroddiadau a statudau cyfreithiol). Adnoddau electronig perthnasol eraill yw Papurau Seneddol y DU mewn testun llawn o’r ddeunawfed ganrif i’r unfed ganrif ar hugain, Nexis (newyddion a busnes testun llawn), Web of Knowledge (gan gynnwys Web of Science a Journal Citation Reports), OCLC First Search, yn ogystal ag amrywiaeth eang o ddata ac adnoddau cyfryngol ar-lein. Gellir cael mynediad at y rhan fwyaf o’r adnoddau ar-lein hyn yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
I gael gwybodaeth bellach ynghylch adnoddau cyfreithiol, ewch i:  http://www.aber.ac.uk/cy/is/subject/index.html

Llyfrgell Cenedlaethol Cymru

Mae Aberystwyth yn ffodus iawn fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli gerllaw prif gampws y Brifysgol. Llyfrgell hawlfraint yw’r llyfrgell hon ac o’r herwydd mae’n derbyn copi o bob llyfr a gyhoeddir yn y DU. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gasgliad helaeth iawn o gyhoeddiadau eraill yn ogystal sy’n ychwanegu at adnoddau Llyfrgell y Gyfraith, gan sicrhau fod yma un o’r casgliadau gorau o lyfrau’r gyfraith y DU y tu allan i’r prif ddinasoedd.


Gall pob myfyriwr ddefnyddio adnoddau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac mae’n adnodd amhirsiadwy ar gyfer cwblhau prosiectau ymchwil.                   

Adnoddau Cyfrifiadurol

Gall pob myfyriwr ddefnyddio ein cyfleusterau cyfrifiadurol a welir mewn ystafelloedd gweithfannau cyhoeddus ar y campws, mewn llyfrgelloedd ac mewn Neuaddau Preswyl. Ceir adnoddau ar gyfer e-bost a mynediad i’r we, yn ogystal â’r hawl i ddefnyddio ystod eang o raglenni meddalwedd eraill.


Lleolir y gweithfannau cyhoeddus mewn 26 gwahanol ardal. O blith y rhain, mae 13 ohonynt bob amser ar gael ar gyfer gwaith academaidd unigol, a 3 ardal yn cael eu neilltuo ar gyfer myfyrwyr sydd â gofynion mynediad penodol. Mae nifer y gweithfannau ym mhob ardal yn amrywio rhwng 10 a 101 a gellir gwneud defnydd o sawl ardal, yn enwedig yn y Neuaddau Preswyl, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae mynediad diwifr ar gael o rannau helaeth o gampws Prifysgol Aberystwyth, gan gynnwys yr holl adeiladau academaidd ac Undeb y Myfyrwyr. I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan Gwasanaethau Gwybodaeth.