Newyddion a Digwyddiadau
Awst 6ed 2012 - Cystadleuaeth Ymryson Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ar Awst 6ed cynhelir cystadleuaeth ymryson y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg. Bydd pedwar o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan: Ruth Davies, Martin Jones, Sian Jones a Manon Chirgwin. Daeth Manon yn ail yn y gystadleuaeth y llynedd, a Martin yn drydedd. Dewch draw yn llu i gefnogi’r pedwar myfyriwr:
Rownd 1 a 2 9-12.30 Pabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Rownd derfynol Pabell y Cymdeithasau
Materion Cyfreithiol Cymreig Darlith Flynyddol 2012
Dr Timothy Brain cyn Prif Gwnstabl Caerloyw, ac awdur 'A History of Policing in England and Wales from 1974: A Turbulent Journey'
‘Dyfodol yr heddlu yng Nghymru’
Nos Iau, Chwefror 23ain 2012 am 7yh
Ystafell C22 Adeilad Hugh Owen - Campws Penglais
Croeso i bawb
Digwyddiadau sydd i ddod
- Ddydd Mercher 4ydd o Orffennaf
- Ddydd Mercher 17eg o Hydref
- Dydd Sadwrn y 20fed o Hydref
Newyddion
- 6 Awst 2010 - 4pm
Fug Achos Llys yn Eisteddfod Genedlaethol
Mewn clwb nos yn Aberystwyth, anafwyd merch. Dwynwyd Heulwen Rhiannon Williams gerbron y llys fel diffynnydd. A fydd y llys yn caniatau mechniaeth iddi? Myfyrwyr Adran y Gyfraith a Throseddeg fydd yn erlyn ac amddiffyn yr achos. - 21 Gorffennaf 2010
Aeth aelodau o'r Adran a Chanolfan Ymarfer y Gyfraith i'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd i hybu ystod o gyrsiau proffesiynol parhaol y mae'r Adran yn eu cynnig ar hyn o bryd i'r diwydiant ffermio ac i sectorau eraill o fyd fusnes yng Nghymru. - 16 Gorffennaf 2010
Cafodd yr Arglwydd Judge, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr ei wneud yn Gymrawd y Brifysgol yn y Seremoni Raddio i fyfyrwyr y Gyfraith a Throseddeg. - 12 Gorffennaf 2010
Mae'n bleser gan yr Adran gyhoeddi bod yr Athro Noel Cox wedi'i benodi yn Bennaeth ar Adran yr Gyfraith a Throseddeg. - 1 Ebrill 2010
Mae'r Adran yn falch o gyhoeddi bod Ms Kate Williams, Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg wedi'i phenodi yn Ddirprwy Gyfarwyddwr sefydliad newydd Canolfan Trosedd a Cyfiawnder Chymdeithasol Cymru. - 26 Mawrth 2010
Cystadleuaeth Ymryson Cyfreitha Genedlaethol Cymru a noddir gan LexisNexis
Cynhelir Cystadleuaeth Ymryson Cyfreitha Genedlaethol Cymru yn yr Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth, gyda'r Rowndiau Bwrw-Allan yn cychwyn yn y prynhawn am 3 o'r gloch, gyda Phrifysgol Caerdydd yn erbyn Prifysgol Aberyswyth, a Phrifysgol Abertawe yn erbyn Prifysgol Morgannwg.
Yr Ymryson Terfynol - 6.00 yr hwyr, o flaen yr Arglwydd Elystan Morgan - 25 Mawrth 2010
Darlith
Yr Athro Thomas Watkin, Prif Gwnsler Deddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn traddodi darlith ar "The Impact of Welsh Legislative Powers" yn C4 Adeilad Hugh Owen am 11.00yb. - 24 Mawrth 2010
Seminar Cyfrwng Cymraeg
Yr Athro Thomas Watkin, Prif Gwnsler Deddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal seminar ar "Effaith Pwerau Deddfwriaethol Cymru" yn C165 Adeilad Hugh Owen am 1.00yh. - 9 Mawrth 2010
Rhaglen "Rhoi Dysg ar Waith"
Mae'r Adran yn cynnal derbyniad i lansio rhaglen "Rhoi Dysg ar Waith" yn yr ystafell Victor Salvi, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd am 5.30 i 7.00 y.h. Bydd yn gyfle i gwrdd ag aelodau'r Adran, ac i drafod y gwaith sy'n mynd rhagddo, goblygiadau'r gwaith hwnnw a'r cyfle a ddaw yn ei sgil i weithwyr proffesiynol a gwneuthurwyr polisi yng Nghymru.
Os hoffech chi fod yn bresennol cysylltwch gyda Melanie Howard - eih@aber.ac.uk - Tachwedd 2009
Rhagoriaeth Ymchwil mewn Proses Cyfreithiol
Mae'n bleser gan yr Adran ddyfarnu ein gwobr flynyddol am ragoriaeth ymchwil mewn Proses Cyfreithiol i Misha Hermanova, Teodora Mundrova a Kristyna Faltynkova. - 30ain Medi 2009
Gwobr Derek Allen
Y mae'r adran yn falch i gyhoeddi fod yr Academi Brydeinig wedi dyfarnu Gwobr Derek Allen 2009 i'r Athro Emeritws Dafydd Jenkins. - 4 Awst 2009
Ffug achos llys yn Eisteddfod y Bala
Mewn clwb nos yn Aberystwyth, cafodd dyn ei anafu. Dwynwyd Rhys Thomas gerbron y llys fel diffynnydd. Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol cynhaliwyd ffug achos llys, gyda dau o raddedigion diweddar Adran y Gyfraith a Throseddeg yn cyflwyno’r achos. Ymddangosodd Llyr Ap Glyn ar ran yr erlyniad, a Dafydd Tudur ar ran yr amddiffyniad. Wedi dadleuon coeth gan y cyfreithwyr, barn y llys oedd i wrthod mechnïaeth i’r diffynnydd, ac mewn pleidlais agos tueddodd y gynulleidfa ochri â’r farn honno. Bydd Dafydd a Llyr yn cychwyn ar y Cwrs Ymarferiad y Gyfraith and yr Adran ym mis Medi. - 27ain Mawrth 2009
Coroni myfyrwyr y Gyfraith Aberystwyth yn Bencampwyr Ymryson Cyfreitha Cymru
Pencampwyr Cystadleuaeth Ymryson Cyfreitha Genedlaethol gyntaf Cymru yw myfyrwyr y Gyfraith Aberystwyth Laura-Pauline Adcock (Cwnsler Arweiniol) ac Eric Lee (Cwnsler Ieuaf). - 25ain Mawrth 2009
Cystadleuaeth Ymryson Cyfreitha Genedlaethol Cymru
Y Cwnsler Cyffredinol, Carwyn Jones AC, oedd llywydd rownd derfynol Cystadleuaeth Ymryson Cyfreitha Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ar 25 Mawrth.
- 27ain Chwefror 2009
Cyfarwyddwr Newydd i’r Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig
Penodwyd Dr Catrin Fflur Huws yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig. Mae Dr Huws yn olynu Ann Sherlock, y bu ei gwaith mor bwysig wrth sefydlu’r corff pwysig ac arloesol hwn, sef yr unig gorff o’i fath.
- 19eg Rhagfyr 2009
Ymarfer Asesiad Ymchwil 2008
Cafodd 65% o waith ymchwil a gyflwynwyd gan Adran y Gyfraith a Throseddeg ei gydnabod yn rhyngwladol ac mae 35% ohono’n cael ei ystyried o safon fyd-eang neu o ragoriaeth ryngwladol.
- 9fed Rhagfyr 2008
Fforwm Ymchwil Cyfraith Ryngwladol
Ddydd Mercher, 10 Rhagfyr, fe fydd Fforwm Ymchwil Cyfraith Ryngwladol Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Colociwm undydd i goffáu 60 mlynedd ers mabwysiadu’r Datganiad Byd-eang ar Iawnderau Dynol.
- 20fed Tachwedd 2008
"The Development of Devolution" – Darlith Flynyddol y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig
Darlith flynyddol y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig eleni fydd “The Development of Devolution and Legal Wales” a thraddodir y ddarlith gan Mr Winston Roddick Cwnsler y Frenhines, cyn-Gwnsler Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
.jpg)