Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig
Sefydlwyd Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ym mis Ionawr 1999, gyda'r bwriad o atgyfnerthu a rhoi ffocws i waith ac arbenigedd yr Adran ym maes y Gyfraith a'i pherthnasedd i Gymru, a datblygiadau cyfreithiol cyffredinol sy'n gysylltiedig â Chymru. Prif amcan y Ganolfan yw ystyried a oes ffordd benodol Gymreig o edrych ar faterion cyffredinol o fewn i system gyfreithiol Cymru a Lloegr, a sicrhau bod datblygiadau cyfreithiol Cymreig yn cael eu hystyried yng nghyd-destun ehangach datblygiadau Prydeinig, Ewropeaidd a rhyngwladol. Nid mater i Gymru yn unig yw Datganoli: y mae’n fater byw a phwysig yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain, rhanbarthau o Loegr, ac mewn sawl rhan o Ewrop. Mae’r Ganolfan yn cydweithio â sefydliadau eraill ym Mhrydain a gwledydd eraill er mwyn ystyried a chymharu datblygiadau cyfreithiol mewn rhanbarthau eraill a ddatganolwyd.
Y symbyliad i greu'r Ganolfan oedd Datganoli, sefydlu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru, a gweld trefn gyfreithiol ag iddi ymdeimlad Gymreig bendant yn dod i'r amlwg. Ar hyn o bryd mae’r broses o roi datganoli ar waith yn rhan bwysig o weithgaredd y Ganolfan, o safbwynt y gyfraith gyhoeddus sy’n ymwneud â strwythurau a gweithrediadau’r Cynulliad ei hun, ac o safbwynt y polisi ar gyfraith hawliau (substantive law) a ddatblygir gan y Cynulliad. Y mae’r gwaith serch hynny, yn mynd ymhellach na phrosesau a gweithrediadau datganoli: mae aelodau o’r Ganolfan yn gweithio ar brosiectau eraill perthnasol, gan gynnwys hawliau dynol, rhyddid mynegiant, yr iaith Gymraeg, a chyfiawnder troseddol mewn cyd-destun Cymreig. Y mae ystyried y materion hyn ar gyfer Cymru, gan gymharu ein sefyllfa ni â mannau eraill, yn cynyddu ein dealltwriaeth o feysydd cyffredinol, ac yn ehangu yn hytrach na chulhau ein hagwedd.