Astudiaethau Israddedig
Cynigiwn nifer o wahanol raddau yn Y Gyfraith a Throseddeg ac mae pob un ohonynt yn sicrhau bod y myfyriwr yn cael ei hyfforddi’n drylwyr yn yr egwyddorion a’r dulliau sylfaenol. Mae’r dewisiadau sydd ar gael yn galluogi myfyrwyr i ddewis y cynllun astudio sy’n addas i’w hamcan a’u huchelgais bersonol.
Graddau yn y Gyfraith
Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg Aberystwyth yn ceisio sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei hyfforddi’n drylwyr yn egwyddorion a dulliau sylfaenol y gyfraith, mewn rhesymu cyfreithiol ac yn y drefn gyfreithiol a’i sefydliadau. O fewn i’r ffiniau hyn, ceisiwn roi’r dewis mwyaf posibl i fyfyrwyr wrth ddewis cynllun astudio sy’n addas ar gyfer eu hamcanion a’u huchelgais. O’r herwydd, cynigiwn nifer o raddau gwahanol yn y Gyfraith – gradd LLB, BA (Y Gyfraith) a dau gynllun Y Gyfraith gyda Ieithoedd. Mae cynllun dwy flynedd ar gael yn ogystal i’r rheiny sydd eisoes wedi graddio mewn disgyblaeth heblaw’r gyfraith.Cyrsiau gradd sydd ar gael
- LLB Y Gyfraith (cwrs 3 blynedd neu gwrs 2 flynedd llwybr cyflym i raddedigion mewn pynciau eraill)
- LLB Cyfraith Trosedd
- LLB Cyfraith Ewropeaidd
- LLB Cyfraith Busnes
- LLB Iawnderau Dynol
- LLB Y Gyfraith gyda Ieithoedd
- BA Y Gyfraith a BA Y Gyfraith gyda Ieithoedd