Dewis y Cynllun Gradd Cywir
Yr hyn sy’n gyffredin i’r gwahanol gynlluniau gradd yw fod pob un ohonynt yn cael eu cydnabod gan ddwy gangen y proffesiwn yn raddau ‘cymhwyso’ yn y gyfraith, a bod graddedigion felly yn cael eu heithrio o ran gyntaf arholiadau proffesiynol cyfreithwyr a bargyfreithwyr, ar yr amod eu bod yn dilyn rhai modiwlau ‘craidd’ ac yn llwyddo ynddynt. Trefnwyd pob un o’r cynlluniau gradd yn ofalus i sicrhau bod myfyrwyr, heb fod ganddynt yn gyffredinol unrhyw wybodaeth flaenorol o’r gyfraith, yn derbyn yn eu blwyddyn gyntaf gyflwyniad trylwyr i egwyddorion a methodoleg sylfaenol a’u bod yn gallu cael sylfaen gadarn i weithio arni yn y blynyddoedd sydd i ddod. Yn y modiwl, Prosesau Cyfreithiol, er enghraifft, hyfforddir myfyrwyr i ddefnyddio llyfrgell y gyfraith a chael profiad o systemau ‘traddodiadol’ a chyfrifiadurol o gael gafael ar wybodaeth gyfreithiol.
Caiff nifer o’r pynciau ‘craidd’ sydd at ddibenion proffesiynol eu hastudio yn y flwyddyn gyntaf; dyma’r pynciau sy’n hanfodol i ddealltwriaeth o wahanol ganghennau’r gyfraith. Mae’r ail a’r drydedd flwyddyn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudio’r pynciau ‘craidd’ sy’n weddill ac i ddewis o blith ystod eang o fodiwlau. Gall myfyrwyr felly roi ‘pecyn’ at ei gilydd sy’n ddeniadol iddynt hwy. Bydd rhai myfyrwyr, er enghraifft, yn gwyro tuag at bynciau masnach a busnes megis cyfraith cwmnïau, cyfraith fasnachol, cyfraith eiddo deallusol a chyfraith cyllid, ac eraill yn fwy cartrefol ymhlith pynciau ‘polisi cymdeithasol’ megis cyfraith teulu, cyfraith plant, cyfraith lles a chyfraith tai.
Mae’n bosibl y bydd y cyfuniadau mwy poblogaidd ar gael hefyd ar un o’n cynlluniau LLB ‘thematig’. Rydym yn falch o allu cynnig y math hwn o ddewis, gan sicrhau ar yr un pryd fod yr holl seiliau dadansoddi angenrheidiol wedi eu gosod yn ofalus.