Graddau yn y Gyfraith

Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg Aberystwyth yn ceisio sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei hyfforddi’n drylwyr yn egwyddorion a dulliau sylfaenol y gyfraith, mewn rhesymu cyfreithiol ac yn y drefn gyfreithiol a’i sefydliadau. O fewn i’r ffiniau hyn, ceisiwn roi’r dewis mwyaf posibl i fyfyrwyr wrth ddewis cynllun astudio sy’n addas ar gyfer eu hamcanion a’u huchelgais. O’r herwydd, cynigiwn nifer o raddau gwahanol yn y Gyfraith – gradd LLB, BA (Y Gyfraith) a dau gynllun Y Gyfraith gyda Ieithoedd. Mae cynllun dwy flynedd ar gael yn ogystal i’r rheiny sydd eisoes wedi graddio mewn disgyblaeth heblaw’r gyfraith.

Cyrsiau gradd sydd ar gael

Gwybodaeth Ddefnyddiol