Dysgu ac Asesu
Rydym yn ceisio sicrhau bod ein myfyrwyr yn caffael gwybodaeth am destunau’r gyfraith yn ogystal â’r safbwyntiau ar gyfer ystyried testunau o’r fath a’r gallu i ymholi a dadansoddi’n feirniadol. Ochr yn ochr â datblygu’r sgiliau arbennig hyn yn y gyfraith, nod yr Adran yw ceisio datblygu ymhlith y myfyrwyr sgiliau trosglwyddadwy megis cyfathrebu da a’r gallu i ddod o hyd i wybodaeth a’i rheoli’n effeithiol ac, yn bwysig, ddatblygu hunanhyder, cyfrifoldeb personol a hunanymwybyddiaeth.
Bwriad y dulliau dysgu a ddefnyddir yn yr Adran, sef darlithoedd a seminarau, yw meithrin y sgiliau hyn. Cyflwyniad sylfaenol i’r pwnc yw’r darlithoedd sy’n tynnu sylw at syniadau ac egwyddorion mwy cymhleth a’u trafod. Fforwm yw’r seminarau ar gyfer trafodaethau mwy manwl, ar ffurf grwpiau llai, ar aseiniadau y bydd y myfyrwyr yn eu paratoi ymlaen llaw. Rhan allweddol o’r radd yn y gyfraith yw’r gwaith darllen annibynnol a wneir gan fyfyrwyr er mwyn mynd ar ôl pynciau a godir mewn darlithoedd ac wrth baratoi ar gyfer seminarau. Gosodir gwaith ysgrifenedig ar gyfer pob modiwl er mwyn datblygu’r gallu i ddadansoddi cwestiwn, ymchwilio, cymhathu a chymhwyso gwybodaeth a chyflwyno ateb mewn ffordd eglur a manwl. Anogir sgiliau ymchwilio drwy roi’r dewis o ysgrifennu dau draethawd estynedig yn ystod y cwrs gradd yn seiliedig ar bwnc cyfreithiol sydd o ddiddordeb. Arholir myfyrwyr ar ddiwedd pob modiwl. Mae'r dulliau asesu yn amrywio ar draws y modiwlau a gall gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs, cyflwyniadau llafar neu gyfuniad o'r rhain.