Cyfleoedd Gyrfaol
Mae gradd yn y gyfraith yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfaol gan gynnwys ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, neu fynediad uniongyrchol i sectorau megis masnach, diwydiant, gwasanaethau ariannol a llywodraeth. Mae darpar gyflogwyr yn gwerthfawrogi hyfforddiant deallusol myfyriwr a raddiodd yn y gyfraith, yn enwedig y gallu i ddadansoddi pynciau. Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn Aberystwyth yn cynnig cyngor arbenigol ac arweiniad i fyfyrwyr sy’n ymddiddori ym mhroffesiwn y gyfraith ac, ochr yn ochr â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn cynnig gwasanaeth arbenigol i holl fyfyrwyr y Gyfraith.Proffesiwn y Gyfraith
Mae dwy gangen benodol i broffesiwn y gyfraith yng Nghymru a Lloegr. Cyfreithwyr yw’r rhan helaeth o gyfreithwyr sydd wedi cymhwyso’n broffesiynol. Caiff y rhan fwyaf o gyfreithwyr eu cyflogi gan gwmnïoedd preifat, gan ymgymryd â gwaith cyfreithiol cyffredinol neu arbenigol, a chan amrywio yn eu maint o gwmnïoedd un cyfreithiwr ar y stryd fawr i gwmnïoedd rhyng-genedlaethol yn y Ddinas. I’r rhan fwyaf o bobl, cyfreithwyr yw’r man cyswllt cyntaf â phroffesiwn y gyfraith.Rhaid i raddedigion yn y Gyfraith sy’n bwriadu cymhwyso’n gyfreithwyr ddilyn Cwrs Blwyddyn Ymarfer y Gyfraith, yng Ngholeg y Gyfraith (Birmingham, Caer, Guildford, Llundain neu Gaer Efrog) neu mewn sefydliad addysgol arall sy’n cynnig y cwrs. Gellir dilyn Cwrs Ymarfer y Gyfraith yma yn Aberystwyth.
Bydd bargyfreithiwr sy’n gweithio i gwmni preifat wrth y Bar yn gweithio ar ei liwt ei hun a hynny o gyfres o swyddfeydd, ac mae’n bosibl y bydd yn gweithio’n bennaf yn Llundain neu yn un o’r dinasoedd neu’r trefydd mawr yng Nghymru a Lloegr. Mae bargyfreithwyr yn arbenigo mewn cynnig cyngor cyfreithiol mewn achosion anodd ac wrth baratoi, a chyflwyno, achosion. Mae dadlau yn agwedd hanfodol ar hyfforddiant a sgiliau bargyfreithwyr. Mae nifer o fargyfreithwyr nad ydynt yn ymarfer yn breifat, ond yn gweithio’n hytrach mewn meysydd fel busnes, gwleidyddiaeth, newyddiaduraeth a phrifysgolion.
Rhaid i raddedigion yn y Gyfraith sy’n bwriadu cymhwyso’n fargyfreithwyr ymuno ag Ysbytyau’r Brawdlys ac, wrth iddynt raddio a llwyddo yn y profion dewis angenrheidiol, ddilyn cwrs blwyddyn galwedigaethol y Bar. Bydd cyfnod o ‘brentisiaeth’ yn dilyn cwblhau’r cwrs galwedigaethol yn llwyddiannus. Bydd cyw-fargyfreithiwr yn ennill profiad ymarferol gyda bargyfreithiwr profiadol. Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth, bydd bargyfreithiwr yn chwilio am waith mewn swyddfa breifat yn y Bar neu yn rhywle arall. Bydd nifer o fyfyrwyr tramor yn darllen ar gyfer y Bar mewn sefydliadau addysgiadol sy’n cynnig y cyrsiau angenrheidiol cyn dychwelyd “adref” i ymarfer.
Mae gan Adran y Gyfraith a Throseddeg Aberystwyth gysylltiadau cryf â’r Bar, yn enwedig Gray’s Inn, lle gall ein myfyrwyr fynychu ciniawau a ffug-wrandawiadau llys barn am brisiau gostyngol, a gall ein myfyrwyr yn y gyfraith ymuno â chymdeithas o fewn i’r adran i gryfhau’r cysylltiadau â’r Bar. Dewiswyd nifer o’n graddedigion diweddar gan Gray’s Inn ar gyfer prif ysgoloriaethau a gwobrau.
Y tu hwnt i Broffesiwn y Gyfraith
Bydd myfyrwyr y gyfraith sy’n chwilio am yrfa y tu hwnt i broffesiwn y gyfraith yn derbyn gwasanaeth da gan Adran y Gyfraith a Throseddeg a chan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol. Gall graddedigion â gradd dda yn y Gyfraith fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus e.e. gyda'r Gwasanaeth Sifil, llywodraeth leol, GIG neu'r sector breifat.Nid yw’r gyrfaoedd hyn mor draddodiadol ar gyfer graddedigion y gyfraith ag y mae ymuno â phroffesiwn y gyfraith, ond yma yn Aberystwyth, rydym yn cydnabod eu pwysigrwydd i raddedigion y gyfraith.