Ymweld â ni

Diwrnodau Agored y Brifysgol

Os ydych yn ystyried gwneud cais i astudio yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, beth am ymweld ag Aberystwyth i gael gwybod mwy?

Mae Prifysgol Aberystwyth yn trefnu Diwrnodau Agored ar gyfer darpar fyfyrwyr. Cofrestrwch ymlaen llaw ac anfonir rhaglen atoch er mwyn i chi allu trefnu eich ymweliad. Mae pob Adran ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn ac mae croeso i bawb sy’n dangos diddordeb mewn astudio yma fynychu’r digwyddiadau. Gan ein bod ni o’r farn fod ymweld â phrifysgolion a cholegau posibl yn rhan arbennig o bwysig o’r penderfyniad o beth i’w astudio, a ble, rydym yn cymryd gofal i sicrhau bod Rhaglen ein Diwrnod Agored yn rhoi gwybodaeth i chi am ein cyrsiau a’n hadnoddau ac yn rhoi’r cyfle i chi gael sgwrs anffurfiol ag aelod o’r staff academaidd.

Cynhelir ein Diwrnodau Agored yn 2012:

Ddydd Mercher 4ydd o Orffennaf
Ddydd Mercher 17eg o Hydref
Dydd Sadwrn y 20fed o Hydref

Dyddiau Ymweld Adrannol

Caiff pob ymgeisydd sydd wedi cael cynnig lle wahoddiad awtomatig i ymweld â’r Adran ar ddiwrnodau penodol, gan roi’r cyfle iddynt gwrdd â staff a myfyrwyr presennol yn anffurfiol, cael golwg ar yr Adran a Llyfrgell y Gyfraith a gweld y lleoliad gwych sydd ganddi ar y campws a’i golygfeydd dros dref Aberystwyth a Bae Ceredigion.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais i astudio â ni, cofrestrwch ar-lein i ddod i un o’n Diwrnodau Ymweld – Ffurflen Gofrestru Diwrnod Ymweld (os oes gennych unrhyw broblemau e-bostiwch law@aber.ac.uk).

Gweithdai’r Gyfraith

Bob blwyddyn, rydym yn cynnal o leiaf un gweithdy undydd ar gyfer myfyrwyr ym mlwyddyn gynderfynol yr ysgol neu’r coleg. Bwriedir y ‘gweithdai’ hyn ar gyfer y rheiny sy’n ystyried astudio’r gyfraith ond nad ydynt yn siŵr o’r hyn y mae’r pwnc yn ei olygu. Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr weithio ar brosiect sy’n ymwneud ag agwedd gyfredol ar y gyfraith. Bu gweithdai diweddar yn trafod pynciau megis ‘Cythruddo a Llofruddiaeth’ a’r ‘Hawl i Brotestio’. Dangosir i fyfyrwyr sut i ddefnyddio deunyddiau’r gyfraith a sut i drafod eu canfyddiadau ymhlith ei gilydd a chydag aelodau o staff. Anfonir manylion ynglŷn â’r gweithdy blynyddol a gynhelir yn Adran y Gyfraith a Throseddeg at nifer o ysgolion a cholegau, ac rydym bob amser yn falch o glywed gan sefydliadau eraill a fyddai’n hoffi derbyn y manylion. Mae’r Adran hefyd yn hapus i ymateb i geisiadau, lle bo hynny’n bosibl, i aelodau o staff ymweld ag ysgolion a cholegau er mwyn rhoi sgyrsiau a chynnal gweithdai.

Gweithdai Troseddeg 

Bydd y gweithdai troseddeg yn cyflwyno meysydd creiddiol y pwnc i’r myfyrwyr ac yn ceisio rhoi dealltwriaeth eang o’r maes iddynt. Fel disgyblaeth, caiff troseddeg ei chamddeall yn aml, gan fod pobl yn aml yn drysu rhwng yr hyn a welir ar y teledu a’r byd go-iawn. Bydd y gweithdai yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ymweld â rhai o feysydd allweddol ymchwil droseddol gan ddangos sut y mae’r rhain yn llywio ac yn dylanwadu ar bolisi ac ymarfer. Ochr yn ochr â’r agweddau theoretig, gosodir amrywiaeth o ymarferion a fydd yn galluogi myfyrwyr i gymryd rhan wrth feddwl yn wrthrychol ac yn feirniadol am droseddau a throseddoldeb a’r ffyrdd gorau o drafod ymddygiad o’r fath. Bydd cyfle hefyd i drafod agweddau mwy ymarferol astudio troseddeg a’r gyrfaoedd y gall gradd o’r fath arwain atynt yn y dyfodol.