Gwybodaeth i Ddysgwyr

Adroddiad Estyn 2022

Cynhaliwyd adolygiad Estyn ym Mai 2022.  Gweler yr adroddiad fan hyn

Sut mae cofrestru a thalu am gwrs?

Rhaid i chi ymrestru a thalu ymlaen llaw ar-lein ar dysgucymraeg.cymru  - bydd rhaid i chi fewngofnodi â’ch cyfrif presennol neu greu cyfrif newydd drwy ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost.  Os nad ydych chi’n dymuno cofrestru ar-lein gan ddefnyddio eich e-bost, gofynnwch am gopi caled o’r ffurflen ymrestru.  Eleni, mae gofyn i chi dalu ffi am y flwyddyn gyfan ar ddechrau’r cwrs.  Os nad ydych chi’n gallu talu’r ffi lawn ar unwaith, gallwch chi ofyn am delerau arbennig trwy gysylltu â’r Tîm Dysgu Cymraeg.

Ffioedd Gostyngol

Mae cyrsiau  am ddim ar gyfer:
- pobl rhwng 16 a 25 mlwydd oed 
- pob athro, pennaeth a chynorthwyydd addysgu sy'n gweithio yng Nghymru
- aelodau staff Prifysgol Aberystwyth (cwblhewch y ffurflen yma)
- myfyrwyr (pob oed) Prifysgol Aberystwyth.

Mae gostyniad o 40% ar gael ar gyfer:
Pensiynwyr sy’n derbyn credyd pensiwn 
Myfyrwyr llawn amser 
Unigolion sy’n hawlio rhai budd-daliadau (e.e. Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Treth Plant, Budd-dal Analluogrwydd (yn seiliedig ar incwm), Lwfans
Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm), Lwfans Ceisio am Waith (yn seiliedig ar incwm), Gofalwyr). 

I hawlio’r ffi ostyngol rhaid i chi gysylltu â ni (bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth).

Gostyngiad aml-gwrs

Os ydych chi’n dymuno mynychu mwy nag un cwrs wythnosol, ‘dyn ni’n cynig disgownt o 50% oddi ar yr ail a’r trydydd cwrs a.y.y.b.  I hawlio’r gostyngiad hwn cysylltwch â’n Tîm Dysgu Cymraeg.

Polisi Ad-dalu

Os byddwn ni’n canslo dosbarth, ad-delir y ffi lawn.  Os na fyddwch chi yn mynychu’r wers gyntaf, byddwn ni’n adalu 80% o’r ffi.  Os byddwch yn rhoi’r gorau i ddysgu yn ystod y 4 wythnos gyntaf, byddwn ni’n ad-dalu 50% o’r ffi.  Os byddwch yn penderfynu peidio â pharhau wedi’r 4 wythnos gyntaf, fyddwn ni ddim yn cynnig ad-daliad.

Cwrslyfrau 

Cewch ragor o fanylion am gwrs lyfrau wrth gofrestru neu wrth fynychu eich dosbarth cyntaf. Mae modd  prynu cwrslyfrau am £10 o’ch siop llyfrau Cymraeg leol neu ar-lein yma:

http://www.gwales.com

Cymorth Ariannol

Cronfa Ariannol Wrth Gefn i Ddysgwyr

Manylion Arholiadau CBAC

Eleni, am y tro cyntaf ers Covid 19, dyn ni'n gobeithio cynnal arholiadau llawn (wyneb yn wyneb) ar bob lefel ond rydym yn cadw'r hawl i gynnal profion llafar arlein yn unig.  Dyma'r dyddiadau:

Lefel

Dyddiad

Dyddiad cau

Mynediad Ionawr

Gwener 26 Ionawr 2024

7 Rhagfyr 2023

Mynediad Dydd

Mawrth 11 Mehefin 2024

1 Mawrth 2024

Mynediad Nos

Iau 13 Mehefin 2024

1 Mawrth 2024

Sylfaen

Gwener 21 Mehefin 2024

1 Mawrth 2024

Canolradd

Gwener 14 Mehefin 2024

1 Mawrth 2024

Uwch

19-20 Mehefin 2024

1 Mawrth 2024

Llyfrau ac adnoddau dysgu Cymraeg

Ap Geiriaduron Ap sy'n cynnwys Cysgair 
-
 Ap Dysgu Cymraeg - Say Something in Welsh
- learn-welsh.net Anodd ar-lein i ddechreuwyr (am ddim)
parallel.cymru Cylchgrawn dwyieithog ar-lein