Cymraeg yn y Gweithle

Mae buddsoddi yn eich gweithlu yn gallu codi morâl, tra hefyd yn gwella gwasanaeth cwsmer. Mae cynnig gwasanaeth dwyieithog yn galluogi cwmnïoedd cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat i:

  • gael mantais gystadleuol yn y farchnad
  • wella ansawdd y gwasanaeth
  • ennill ewyllys da a theyrngarwch gan gwsmeriaid
  • gyrraedd mwy o gwsmeriaid 

Bydd ein tiwtoriaid yn cyd-weithio'n agos â chi i greu cwrs sydd wedi ei deilwra'n arbennig ar gyfer eich sefydliad. Drwy fynychu dosbarthiadau o fewn y gweithle, bydd eich staff yn teimlo'n ddigon hyderus a chyfforddus i ddysgu, gan deimlo eich bod yn eu gwerthfawrogi ddigon i fuddsoddi ynddynt. Bydd eich staff hefyd yn gallu achub mantais ar y cyfle i ymarfer a datblygu eu Cymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth, gan ddechrau defnyddio'r Gymraeg bob dydd.

Mae ein dosbarthiadau Cymraeg yn y Gweithle yn cynnig:

  • Gwersi ar-lein trwy Zoom neu wersi wyneb yn wyneb (yn dibynnu ar argaeledd tiwtor lleol). 
  • Gwersi wedi’u teilwra i anghenion y dysgwyr dan sylw. 
    Gwersi Cymraeg yn y gweithle sy'n gallu arwain at gymwysterau llawn a gydnabyddir yn genedlaethol
  • Cefnogaeth ychwanegol drwy gydol y flwyddyn e.e. Sadyrnau Siarad , cyrsiau ar benwythnosau, cyrsiau preswyl ac ysgolion haf
  • Cyfleoedd i ddysgwyr i rwydweithio a chwrdd â dysgwyr eraill yn yr un sefydliad er mwyn ymarfer yr iaith a rhannu profiadau

Am ragor o wybodaeth ebostiwch dysgucymraeg@aber.ac.uk neu ffoniwch ni ar 0800 876 6975.

Yn ogystal, mae'r cynllun cenedlaethol Cymraeg Gwaith ar gael

Nod Cymraeg Gwaith yw cryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae Cymraeg Gwaith yn cynnig hyfforddiant amrywiol, hyblyg, sydd wedi ei ariannu’n llwyr i gyflogwyr.

Gwasanaethau Cymraeg Gwaith