Hanes, Hel Achau ac Archaeoleg

 

Mae adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ym meysydd hanes, hel achau, ac archaeoleg. O'r gyfres hel achau mewn tair rhan i ddechreuwyr, sef From Acorn to Oak i fodiwlau ar Researching the History of Your House, rydyn ni'n sicr y gwelwch destun fydd o ddiddordeb ichi.

Rhagflasau Fideo Hanes

Llythyrau Cychwyn Cwrs Hanes

Gallwch astudio modiwlau unigol, neu gallwch weithio tuag at Dystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Hel Achau.

Caiff ein cyrsiau eu darparu ar 2 fformat gwahanol:

  • Dysgu ar eich cyflymder eich hun; trwy Blackboard, sef ein hamgylchedd addysgu ar-lein.
  • Sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ar gampws Prifysgol Aberystwyth a lleoliadau eraill ledled Cymru.

Pa ffordd bynnag y dewiswch astudio gyda ni, fe wnawn yn sicr y cewch ddigon o gefnogaeth ac arweiniad er mwyn ichi wneud y mwyaf o'ch profiad o ddysgu. Mae pob un o'n modiwlau wedi'u hachredu gan y brifysgol ac mae gan ein tiwtoriaid brofiad helaeth o ddarparu addysg oedolion.   

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, e-bostiwch Elin Mabbutt emm32@aber.ac.uk. Os oes gennych ymholiadau gweinyddol, e-bostiwch y Swyddfa Dysgu Gydol Oes, dysgu@aber.ac.uk.

Tystysgrif Addysg Uwch: Astudiaethau Hel Achau

Cynllun rhan amser hyblyg yw'r Dystysgrif Astudiaethau Hel Achau, sy'n caniatáu i chi ddysgu yn ôl eich pwysau eich hun.

Mae tystysgrif addysg uwch yn cynnwys 120 credyd ac mae mwyafrif ein modiwlau'n werth 10 credyd. Mae i'r dystysgrif yr un nifer o gredydau â blwyddyn gyntaf cynllun gradd israddedig amser llawn ac mae'n gyfwerth o ran lefel yr astudio (Lefel 4 y Fframwaith Cymwysterau Gwladol).

Cafodd ei llunio i ddarparu sylfaen trwyadl o ran damcaniaeth ac arfer mewn ymchwil hanesyddol, hanes teuluol, cofnodion ac archifau, a bydd myfyrwyr yn ennill y sgiliau angenrheidiol i wneud ymchwil annibynnol ar hel achau.

Cewch gymryd pum mlynedd i gwblhau eich astudiaethau ac yn y cyfnod hwnnw gallwch weithio yn ôl eich pwysau eich hun. Ni chaiff pob cwrs ei gynnig bob blwyddyn, ond byddwn yn sicrhau bod yr holl gyrsiau ar gael dros gyfnod o amser.

Modiwlau Craidd

Modiwlau Dewisol

 

Sut i gofrestru ar gwrs unigol

Tystiolaeth Myfyrwyr

"Roedd y cynnwys, a dull a chyflymder yr addysgu yn ardderchog."

"Roedd brwdfrydedd ac angerdd y tiwtor ei hun am y pwnc yn ysbrydoliaeth."

"Cyfres dda o ymarferion er mwyn dysgu sut i ddefnyddio adnoddau ar-lein."

"Fe wnaeth [y prosiect terfynol] yn bendant atgyfnerthu'r dysgu."

"Ardderchog os oes arnoch eisiau ymchwilio i hanes eich teulu!"

Sut i gofrestru ar y Dystysgrif Addysg Uwch

Sut i gofrestru ar y Dystysgrif Addysg Uwch

Cliciwch ar y ddolen hon a dilyn y cyfarwyddiadau.