Ieithoedd Modern

 

Pa ieithoedd allaf i eu dysgu?

Erbyn hyn, gallwch ddod atom i ddysgu: Almaeneg, Arabeg, Eidaleg, Ffrangeg, Groeg, Llydaweg, Rwsieg, Sbaeneg, Siapaneg a Tsieinëeg, pob un ar wahanol lefelau.

Y Rhaglen Ieithoedd

Yn ogystal â cheisio gwasanaethu ein myfyrwyr yn y Brifysgol, rydym wedi ymrwymo i wasanaethu’r gymuned: o Benfro i Aberystwyth, o Aberteifi i Dyddewi, o Hwlffordd i Aberhonddu a’r Gelli Gandryll. Rydym yn mawr obeithio y bydd ein cyrsiau wrth eich bodd ac y byddwch yn mwynhau pob eiliad ohonyn nhw – y dulliau dysgu, y fethodoleg, awyrgylch y dosbarthiadau a’n tiwtoriaid cyfeillgar. Rydym yma i’ch helpu i ddysgu iaith. Byddwn yn parhau i ddarparu cyrsiau adolygu yn ystod y trydydd tymor. Gobeithio y bydd y cyrsiau hyn yn ategu’r hyn yr ydych eisoes yn ei wybod, gan sicrhau eich bod yn mwynhau ac yn ymlacio hyd yn oed mwy wrth ddysgu.

Y Llwyfan Cyfnewid Ieithoedd

Y Llwyfan Cyfnewid Ieithoedd

Cyrsiau Tandem Wyneb yn Wyneb

Culm, Prifysgol Zaragoza, Sbaen

Ydych chi'n fyfyriwr Sbaeneg gyda Dysgu Gydol Oes?

Ymarferwch eich Sbaeneg a dysgwch gyda'ch partner tandem yn Aber neu Sbaen!

Sut allaf i ddysgu?

Drwy wrando, byddwch yn dod i ddeall yr hyn y mae’ch athro a’ch cydfyfyrwyr yn ei ddweud, a’r hyn sy’n cael ei ddweud ar y teledu neu’r radio. Byddwch yn dysgu siarad drwy siarad. Byddwch yn magu hyder i fynegi eich syniadau a’ch safbwyntiau a byddwch yn llwyddo i gyfleu eich neges. Byddwch yn darllen hysbysebion, erthyglau, nofelau a gwefannau. Byddwch yn ysgrifennu llythyrau, negeseuon ac erthyglau mewn iaith dramor. Byddwch yn gweithio mewn grwpiau neu barau, gan gyflawni eich amcanion drwy gydweithio. Ein nod pwysicaf yw meithrin sgiliau’r myfyrwyr i ddefnyddio iaith i gyfathrebu. Byddwn yn pwysleisio sgiliau llafar, lle bydd gramadeg yn rhan naturiol o ddatblygiad yr iaith. Byddwn hefyd yn ceisio creu profiad dysgu pleserus a byddwn bob amser yn croesawu unrhyw awgrymiadau am ffyrdd o addasu’r dosbarthiadau i ateb eich gofynion chi yn well. Mae pob un o’n cyrsiau’n seiliedig ar iaith a diwylliant cyfoes y wlad dan sylw. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’ch profiad dysgu ac yn rhoi cipolwg i chi ar dreftadaeth y wlad.

Pam dysgu iaith?

Bydd pobl yn penderfynu dysgu iaith am lawer o wahanol resymau. Bydd llawer yn dweud bod iaith yn allwedd i ddeall ffordd arall o fyw. Meddyliwch am y bobl, y lleoedd, y llyfrau, y gwefannau, y ffilmiau a’r rhaglenni teledu newydd y gallech eu mwynhau. Ar yr un pryd, gallech ddod i ddeall diwylliannau a ffyrdd eraill o fyw yn llawer gwell. Mae ieithoedd yn agor drysau. Os byddwch yn llwyddo i gyfathrebu mewn iaith dramor, bydd cymaint mwy o gyfleoedd ar gael i chi nag yr ydych yn sylweddoli, a hynny ar unrhyw lefel astudio. Pan fyddwch chi’n gwneud ymdrech i siarad ychydig o eiriau mewn iaith arall, bydd yn gwneud byd o wahaniaeth. O ddysgu iaith, byddwch hefyd yn gallu darllen papurau newydd mewn iaith dramor a bydd hyn yn rhoi persbectif newydd i chi ar ddigwyddiadau byd-eang. Efallai eich bod yn gwybod pam eich bod am ddysgu iaith newydd. Os oes gennych reswm clir dros ddysgu iaith, byddwch yn fwy awyddus i lwyddo a bydd gennych amcan clir. Byddwch yn gwybod bod y gallu i gyfathrebu mewn iaith dramor yn cyfoethogi’ch bywyd.

Yn pryderu am ddysgu iaith newydd?

Peidiwch â phryderu. Rydym yn cynnig byd newydd o gyfleoedd i chi. Os byddwch yn ymuno â dosbarth dechreuwyr, byddwch yn synnu at yr hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd y semester cyntaf. Os bu i chi ddechrau dysgu iaith beth amser yn ôl a rhoi’r gorau iddi am ba bynnag reswm, bydd croeso i chi ymuno â ni ar unrhyw lefel – ôl-ddechreuwyr, canolradd is ac uwch, neu uwch. Ac os ydych yn weddol rhugl mewn iaith, ond nad ydych erioed wedi ennill cymhwyster swyddogol, bydd y cyrsiau’n eich rhoi ar ben ffordd i astudio ymhellach. Gall unrhyw un ddysgu iaith. Fyddwch chi byth yn rhy hen neu’n rhy ifanc i ddysgu iaith. Peidiwch â bod ofn ymarfer eich sgiliau iaith unrhyw le ac unrhyw bryd. Ond beth bynnag y byddwch yn ei wneud, cofiwch fwynhau’r profiad dysgu!