Datblygiad Proffesiynol

 

Dysgu, Ennill a Llwyddo

Mae pawb ohonon ni'n brysur ers Covid-19 yn ailhyfforddi a dysgu gwybodaeth newydd i hybu ein CV.

Yn ôl yr ystadegau bu cynnydd trawiadol eleni yn nifer yr oedolion sy'n mynd ati i ddysgu mewn rhyw ffordd, ac mae hyn wedi ysgogi cynllun datblygu yn yr adran Dysgu Gydol Oes i wahanu llawer o'r cyrsiau Datblygiad Proffesiynol o fewn y meysydd pwnc a'u gosod ar lwyfan hygyrch.

Wrth i'r economi brysuro tuag at y 'Diwydiant 4.0', mae rhai ohonom yn cadw golwg i weld sut y bydd hyn yn newid cyflogaeth. Ein cyfrifoldeb ni fel unigolion yw cymryd yr awenau wrth ddatblygu ein sgiliau. Mae cyflogwyr yn chwilio am sgiliau craidd sy'n cysylltu ag Amcanion Datblygiad Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae cyflogwyr mawr yn disgwyl ailhyfforddi tua 50% o'u staff yn y pum mlynedd nesaf. Mae'n bwysig ein bod yn hogi sgiliau nad oes modd i gyfrifiadur eu disodli er mwyn gallu addasu a symud ymlaen. Mae cyfathrebu, datrys problemau, hunan-reoli a chyd-drafod yn ddoniau a fydd yn hanfodol a deniadol i gyflogwyr yn ogystal â medrusrwydd digidol.   

Ydych chi'n un a fyddai'n newid gyrfa? Mae Covid hefyd wedi peri i weithwyr ail gloriannu eu bywyd, symud i le llai, a sylweddoli nad yw'r swydd sydd ganddynt yn hyrwyddo cydbwysedd iach i fywyd. Efallai yr hoffech fod yn entrepreneur neu sefydlu menter gymdeithasol. Gall tro gyrfa fod yn gymhleth a chymryd tipyn o amser i ymchwilio iddo. Efallai y bydd angen ichi gael barn arbenigol a chymorth wrth geisio canfod a chaffael sgiliau gwahanol a dechrau troedio llwybr gyrfa newydd.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Barn ein myfyrwyr...

Diolch yn fawr iawn am eich adborth a diolch am y cwrs gwych hwn. Rwyf nid yn unig wedi dysgu llawer ond wedi ei fwynhau'n fawr iawn!'

'Bu eich sylwadau a'ch cefnogaeth o gymorth mawr i mi. Rwy'n bendant yn teimlo bod fy sgiliau wedi datblygu tipyn, ac rydw i wir yn edrych ymlaen at y cwrs nesaf.'

 

Sut mae dysgu ar-lein yn gweithio?

Mae pob un o'n modiwlau byr yn rhai lle byddwch yn dysgu wrth eich pwysau ar-lein, sy'n golygu y gallwch droi at yr unedau astudio yn eich amser eich hun fel nad ydynt yn ymyrryd ag ymrwymiadau eraill. Cafodd pob modiwl ei ysgrifennu ar ffurf unedau astudio bach a ategir gan weithgareddau a thasgau er mwyn ichi allu dysgu a chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor. Byddem yn eich cynghori i ystyried eich dysgu yn yr un ffordd â dosbarth wyneb yn wyneb a throi ato'n wythnosol i gynnal eich cymhelliant. Bydd eich tiwtor wrth law, trwy e-bost, ac fe gynhelir dosbarth tiwtorial wyneb yn wyneb ar-lein er mwyn trefnu eich tasg asesu olaf.

Mae gennym nifer o gyrsiau newydd ar-lein eleni, felly sawl math o gwrs hyfforddi i ddewis o'u plith a fydd yn eich rhoi mewn sefyllfa fanteisiol wrth wneud cais am swydd newydd, neu efallai yr hoffech gofrestru ar gwrs am fod gennych ddiddordeb yn y maes.

Rhagflasau Fideo Datblygiad Proffesiynol

Llythyrau Cychwyn Cwrs Datblygiad Proffesiynol